Sefydlwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 1107. Rhwng 1120 a 1133 cafwyd ailadeiladu sylweddol yno, gyda chyfres o estyniadau pellach yn cael eu gwneud dros y 400 mlynedd nesaf. Roedd y rhain yn cynnwys ychwanegu Cabidyldy, Capel y Forwyn, a'r tŵr gogledd-orllewinol, yn ogystal â gwaith ailadeiladu sylweddol i brif gorff yr eglwys yn niwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.
Achoswyd difrod adeileddol mawr i'r eglwys gadeiriol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr a Rhyfel Cartref Lloegr. Yn ystod yr olaf, ysbeiliwyd yr eglwys gan filwyr y Senedd ac fe wnaethant ddwyn neu ddinistrio llawer o'i thrysorau, yn eu mysg gasgliad gwerthfawr y llyfrgell. Yn ystod y blynyddoedd dilynol, defnyddiwyd rhannau o'r eglwys fel stablau ac agorwyd tafarn hyd yn oed o fewn ei muriau.
Achosodd Storm Fawr 1703 niwed mawr i'r adeilad a thros yr ugain mlynedd ddilynol dirywiodd yr adeilad yn gyflym, nes i'r to syrthio yn y diwedd yn 1723. Yn 1734 dechreuodd y pensaer John Wood weithio ar eglwys gadeiriol newydd, gan ddefnyddio rhannau o'r gwreiddiol ond gan orchuddio'r adeiladwaith canoloesol. Aeth y gwaith yn ei flaen yn araf iawn ac, yn 1841, cyflogwyd penseiri eraill i gael gwared ar waith Wood a chwblhau adferiad yr adeilad gwreiddiol. Cwblhawyd y gwaith i'r graddau y gallwyd ailagor yr eglwys gadeiriol ar gyfer addoli yn 1857 ond pan ymwelodd Anatole Le Braz a Charles Le Goffic ag Eglwys Gadeiriol Llandaf yn 1899 fe welsant fod cryn dipyn o adfeilion ar ôl wedi'u gorchuddio gan eiddew. Roedd Le Goffic yn arbennig o ganmoliaethus o'r ffordd y llwyddwyd i gyfuno'r arddulliau Romanesg a Gothig yn berffaith. Ar y pryd roedd Llandaf yn dal yn bentref ar wahân y tu allan i ffiniau dinas Caerdydd; felly roedd yn parhau'n bur wledig ac yn atgoffa'r ddau ymwelydd o bentrefi eu cynefin yn Llydaw.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd trawyd to Eglwys Gadeiriol Llandaf gan fom Almaenig yn ystod un o'r cyrchoedd nos ar Gaerdydd. Yn wahanol i'r canrifoedd blaenorol, fodd bynnag, gwnaed yr atgyweiriadau'n llawer cyflymach a gorffennwyd y gwaith adfer yn 1960. Nodwedd amlycaf yr adferiad hwn yn yr ugeinfed ganrif yw cerflun 'Crist mewn Gogoniant' gan Jacob Epstein.
J’ai l’impression presque d’une bourgade bretonne. Des maisons à façades blanches et à cheminées semblables à celles de mon pays. La croix sur la place, dans un socle de pierre fruste exhaussé de quelques marches. Puis à droite les ruines de l’abbaye; le porche seul, profond et à plusieurs voûtes successives, est intact. Tout le reste est enguirlandé de lierre; de vieux murs. Le parc du Bishop s’étend derrière. Nous entrons dans le cimetière en passant sous un vieil arc de triomphe et l’on descend, car l’église est en contrebas du village, dans un enclos qui tourne au parc, plein de vieilles tombes, semblables à celles de Bretagne. Le sacristain, dès s’il apprend que je suis breton, me fait un acceuil des plus chauds, se tue à tout m’expliquer. Je visite dans le choeur à droite la tombe de saint Theilo, qui a été recueillie en trois morceaux. De l’autre côté, dans le bas-côté, est la tombe de saint Davreg, et plus loin, l’étrange représentation de la Mort, un merveilleux morceau.
Le deanery (la cure du doyen) est de l’autre côté de la route profonde qui mène à la rivière. Et en bas sont des étendues de prés qu’arrosent des bras de la rivière. Il y a là de place en place des aulnes géants. Et tout un merveilleux fond de bois. Le sacristain, là-bas, tout à l’heure, ne voulait pas être anglais, et il m’a fait lire dans un paroissien le pater kymrique. Les prés avec de hautes herbes, comme à l’abandon, des ravinements, et, ça et là, des chardons et des bosquets d’arbres. Le barrage plus loin, un waterfall immense et admirablement bâti, avec, cette fois, la rivière large, pleine, coulant à pleins bords, dans un paysage d’une paix infinie, et, derrière, tout au fond de la perspective lumineuse, des croupes de collines d’un bleu blondissant, comme certains dos de pays de Quimpérois. Dans la végétation, les aulnes et les frênes dominent, des frênes antiques, tout cela d’un vert presque noir.
Beaucoup de maison neuves qui s’élèvent le long de Cathedral-Road protestent de leur patriotisme gallois par les inscriptions qui se lisent en lettres dorées au fronton de leurs portes d’entrée.
Mae’n ymddangos i mi bron fel pentref yn Llydaw. Tai gyda’u blaenau a’u simneiau’n wyn fel y rhai yn fy ngwald fy hun. Saif croes ar sgwâr y pentref, ar sylfaen o garreg arw gydag ychydig o risiau. Yna i’r dde mae adfeilion yr Abaty; y cyntedd, yn ddwfn a chyda sawl bwa un ar ôl y llall, yn unig sy’n gyflawn. Hen furiau o dan fantell o eiddew yw popeth arall. Mae gardd yr esgob yn ymestyn tua’r cefn. Awn i mewn i’r fynwent drwy hen borth gorchest ac awn i lawr, gan fod yr eglwys islaw’r pentref, drwy fan caeedig gefn wrth gefn â’r fynwent, sy’n llawn o feddau hynafol, yn debyg i’r rhai yn Llydaw. Cyn gynted ag y deallodd y clochydd mai Llydäwr oeddwn, fe’m croesawodd yn wresog iawn ac aeth i gryn drafferth i egluro popeth wrthyf. Yn y gangell ar yr ochr dde, ymwelais â bedd Teilo Sant, a oedd mewn tair rhan. Ar yr ochr arall, yn yr ystlys, mae bedd Dyfrig Sant, ac ymhellach ymlaen gerflun rhyfedd o Angau, darn rhagorol o gelf.
Saif y deondy ar ochr arall y geuffordd sy’n arwain at yr afon. Ac yn is i lawr mae dolydd helaeth sy’n cael eu dyfrio gan amrywiol ganghennau o’r afon. Yma ac acw ceir coed gwern anferth, gyda choedwig ryfeddol yn y cefndir. Nid oedd y clochydd, y soniais amdano eisoes, am fod yn Sais, a gofynnodd i mi ddarllen Gweddi’r Arglwydd o lyfr gweddi. Caeau llawn glaswellt tal, fel pe byddent wedi’u hesgeuluso, rhigolau, ac yma ac acw ysgall a choedlannau. Yr argae ymhellach ymlaen, rhaeadr enfawr wedi’i hadeiladu’n rhagorol, a’r afon lydan, yr adeg honno, mewn llawn llif. Hynny oll mewn tirwedd o dangnefedd di-bendraw, a thu ôl i hynny, cyn belled ag yr oedd y golau’n caniatáu i mi weld, copaon gleision, pŵl, yn debyg i fryniau cefndir ardal Kemper. Coed gwern ac ynn sydd fwyaf amlwg yma, ynn hynafol, o wyrdd mor dywyll fel ag i fod bron yn ddu.
Mae llawer o’r tai newydd sy’n cael eu hadeiladu ar hyd Heol yr Eglwys Gadeiriol yn datgan eu gwladgarwch Cymreig drwy’r arysgrifau mewn llythrennau goreurog uwchlaw eu drysau.
L’église n’est qu’à un mille et demi de Cathedral-Road, l‘artère aristocratique de Cardiff, qui l’aurait bientôt rattrapée, n’étaient les admirables parcs qui bordent le Taff et dont le plus vaste, justement, fait ceinture au manoir du bishop diocésain. Une percée entre les ombrages de ce beau parc permet d’embrasser de fort loin l’ensemble du monument. Mais le parc est privé; la route fait un coude, et il faut pousser jusqu’au village, lequel est perché sur un monticule à pic qui plonge sur le ravin où l’église est bâtie. ...
Il n’y a qu’une trentaine d’années cependant que la restauration est achevée. L’abbaye actuelle est un heureux mélange de roman et de gothique. Dans le premier de ces styles, j’ai particulièrement admiré le grand porche cintré du côté sud, l’emboîtement de ses cinq arcatures dentelées et les massifs faisceaux de colonnes qui les portent. Le chœur, qui est du même style date de 1118. Il n’est pas jusqu’à la décoration intérieure de l’église qu’il ne faille louer pour sa juste appropriation au milieu; plus d’une cathédrale gothique jalouserait ces verrières aux tons délicieusement fanés, ces orgues monumentales, les délicates nervures des enfeux et du jubé, surout ces stalles du chœur, ouvrées et fouillées comme une orfèvrerie.
Saif yr eglwys ond milltir a hanner o Heol y Gadeirlan, prif wythïen aristocrataidd Caerdydd, a fyddai yn o fuan wedi ei goddiweddyd, oni bai am y parciau rhagorol ar lan Afon Taf, y mae’r mwyaf ohonynt mewn gwirionedd yn amgylchynu palas Esgob yr Esgobaeth. Mae llannerch dan gysgod coediog yn y parc hwn yn cynnig golygfa o’r holl heneb o bell. Ond mae’r ardd yn breifat; mae tro yn y ffordd a rhaid i chi deithio ymlaen i’r pentref, sydd ar fryncyn gyda chlogwyn serth i lawr i’r hafn lle saif yr eglwys. ...
Dim ond rhyw ddeng mlynedd yn ôl y cwblhawyd y gwaith adfer. Mae’r abaty presennol yn asiad braf rhwng y dull Romanésg a’r dull Gothig. O’r rhannau yn y dull cyntaf, edmygais yn arbennig y porth bwaog mawr ar yr ochr dde, gyda’i bum bwa danheddog ynghlwm â’r gyfres o golofnau cadarn sy’n eu cynnal. Mae’r gangell, sydd yn yr un arddull, yn dyddio o 1118. Mae hyd yn oed addurniad mewnol yr eglwys yn haeddu clod am fod mor addas ar gyfer y cyd-destun; byddai sawl cadeirlan Gothig yn cenfigennu wrth y ffenestri hyn sydd mor dyner eu lliwiau, yr organau anferthol, ribiau cain y cafnau yn y mur ar gyfer beddrodau a sgrin y grog, ac yn arbennig seddau’r côr a’r gangell, wedi eu cerfio a’u siapio fel gwaith gof aur.