Mae lle arbennig i Neuadd Llanofer yn hanes yr adfywiad diweddar mewn diwylliant a llenyddiaeth Gymraeg. Roedd y plasty'n ychwanegiad cymharol ddiweddar at y rhestr o blastaid Cymreig. Fe'i comisiynwyd yn 1828 gan Benjamin ac Augusta Hall, Arglwydd ac Arglwyddes Llanofel, a'i gynllunio gan Thomas Hopper.
Roedd Benjamin Hall (1802 - 1867) yn beiriannydd sifil cyfoethog, Aelod Seneddol a diwygiwr cymdeithasol o'r Fenni. Gan ei fod yn gyfrifol am oruchwylio camau diwethaf ailadeiladu San Steffan, credir i 'Big Ben', y gloch fawr a osodwyd dan ei oruchwyliaeth yn nhŵr y cloc, gael ei llysenwi ar ei ôl. Yn 1823 priododd ag Augusta, Waddington cyn priodi, (1802-1896) o Abercarn gerllaw.
Prif ddiddordebau Arglwyddes Llanofer oedd astudio hanes, iaith a llenyddiaeth Cymru. Mabwysiadodd yr enw barddol Gwenynen Gwent ac, fel noddwr y celfyddydau, cyflogodd nifer o delynorion preswyl i weithio yn ei thŷ. Hefyd, anogodd adfywiad y dillad traddodiadol a wisgid gan y bobl gyffredin mewn gwahanol rannau o Gymru. Roedd mor hoff o'r gwahanol wisgoedd a gynhyrchid yn lleol, fel y dechreuodd wisgio fersiwn fwy bonheddig ohonynt yn ystod gwahanol wyliau a dathliadau diwylliannol, a gellir honni mai Arglwyddes Llanofer wnaeth greu 'gwisg genedlaethol' Cymru. (Gan nad oedd Benjamin Hall yn rhannu hoffter ei wraig o wisgo mewn dull gwledig, nid oes yna wisg i ddynion sy'n cyfateb i'r wisg Gymreig i ferched.)
Yn ogystal, roedd Arglwyddes Llanofer yn gasglwr llawysgrifau a sefydlodd eisteddfod flynyddol leol Cymreigyddion Y Fenni, a gwahoddodd iddi lawer o westeion rhyngwladol a rannai ei hoffter o gerddoriaeth a barddoniaeth Gymraeg. Roedd yn noddwr y Gymdeithas Lawysgrifau Cymreig, talodd am lunio geiriadur Cymraeg a bu'n flaenllaw gyda sefydlu Y Gymraes, y cylchgrawn Cymraeg cyntaf i ferched. Dros y blynyddoedd roedd gwesteion amlwg yn cynnwys ei brawd yng nghyfraith Almaenig, Christian Carl von Bunsen, yn ogystal â Théodore Claude Henri, vicomte Hersart de la Villemarqué, o Lydaw a gafodd ei dderbyn fel bardd i'r Orsedd.
Cafodd Neuadd Llanofer, a ailenwyd yn Dŷ Llanofer, ei ddymchwel i raddau helaeth yn 1936, ond mae yno dŷ preifat o hyd gyda gardd fawr a pharc. Mae'r perchnogion presennol yn aml yn agor y drysau i'r cyhoedd fwynhau'r ardd drefnus, 200 oed, a gomisiynwyd gan y perchnogion cyntaf, Benjamin ac Augusta. Yn ogystal, maent hwythau'n parhau'r traddodiad o blannu coed.
Am 29. September [1839], Sonnabends; trafen wir in Llanover ein. Wie ward mir; als ich am nächsten Morgen, bei schönem Sonnenschein und milder Luft, Gärten und Felder durchschweifte, wo Fanny ihre Kindheit und Jugend verlebt hatte. Der schöne muntere Bach, das friedliche Haus, das Glockengeläute rings um mich, und dann, die Landschaft bekränzend, die schönen Hügel. So war ich denn wieder einmal in einem älterlichen Hause, nachdem ich das angeborene vor gerade 30 Jahren verlassen, und im März 1816 zum letzten mal in ihm, unter seinem Strohdache geschlafen, und den Segen der Aeltern empfangen, die ich nie wiedersehen sollte! Ich war den ganzen Tag, soweit ich ihn nicht in der Kirche zubrachte, immer zwischen den lieblichen Feldern und besonders dem Garten, und dann dem Inneren, wo Frau und Kinder um die liebe anmuthige Großmutter umhersaßen und spielten. Das Herz und die Augen gingen mir über: der Krampf des lange verhaltenen Schmerzes löste sich in überwältigendes Dankgefühl auf.
Ar ddydd Sadwrn, 29 Medi [1839], cyraeddasom Lanofer. Gymaint oedd fy llawenydd wrth i mi grwydro fore drannoeth yn yr heulwen hyfryd a’r awyr mwyn drwy’r gerddi a’r caeau lle treuliodd Fanny ei phlentyndod a’i hieuenctid. Y nant fach brydferth, chwareus , y tŷ tangnefeddus, y clychau’n canu o’m cwmpas ac yna, yn goron o amgylch y dirwedd, y bryniau hudolus. Fel hynny, y deuthum yn ôl i aelwyd deuluol a adewais ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, gan dreulio, ym mis Mawrth 1816, un noson olaf o dan ei do gwellt a derbyn bendith y rhieni na fyddwn yn eu gweld byth eto! Pan nad oeddwn yn yr eglwys, treuliais y diwrnod cyfan yn y caeau hyfryd ac yn arbennig yn yr ardd ac, yn hwyrach fyth, dan do lle’r eisteddai ac y chwaraeai fy ngwraig, fy mhlant a’r fam-gu annwyl, raslon. Roedd yn ormod i’m calon a’m llygaid: ymdoddodd ing y poen a gafodd ei fygu gyhyd yn ymdeimlad o ddiolchgarwch rhyfeddol.
Die Tage der Ruhe dauerten nicht lange: das Cymreigyddionfest kam heran (9., 10. October [1839]), mit seiner poetischen Lebendigkeit, und kymrisch englischem Geräusch .... Lepsius’ Gegenwart verschönerte die Feier: des edeln Dr. Prichard Besuch war die schönste englische Zierde des Festes, obwol er allein der Unbemerkte blieb, der Einzige, welcher über die Kymri-Sprache wissenschaftlich-europäisch geschrieben hat! Einen eigenthümlichen Reiz gibt der Zusammenkunft das Gefühl des Volksthümlichen in dem Harfenspiele, und in dem Dichten und Singen aus dem Stegreife. Diesmal kam der merkwürdige Umftand hinzu, daß Graf Villemarqué aus der Bretagne gegenwärtig war, ein junger, achtbarer Forscher, der die Volkssagen und Lieder der Bretagne gefammelt hatte und zum Erstaunen der Kymri, und zu ihrem unbeschreiblichen Jubel sich, wenngleich nothdürftig, durch seine Muttersprache verständlich machen konnte, nach 1400jähriger Trennung. Alles Dies war ein wenngleich schwaches Abbild der hellenischen Spiele, und die Prosa dazu bildeten die Bälle der vornehmen Welt. Bei dem Festmahle der Gesellschaft mußte ich zum ersten mal öffentlich reden.
An der kymrischen Poesie gewann ich große Freude durch Turner’s geniale Forschung, die mich von der Echtheit der alten Lieder und mehrerer Triaden überzeugte. Ricci’s bescheidener Aufsatz und Jones Tegid’s, des Barden, lebendige Dichtungen zeigten mir das Eigenthümliche der alten Cimbern, mitten in der englischen Civilisation und in dem umschaffenden Gebiete des Christenthums. Nur mit der Sprache selbst konnte ich mich, jenseit der grammatischen Theilnahme, nicht befreunden. Der Schulmeister des Ortes, der auf einer lateinischen Schule gelehrt war, dann 20 Jahre Englisch und Britisch in der Dorfschule mit den Kindern getrieben hatte, konnte mir beim Lesen des Evangeliums nichts erklären, sobald die Wortstellung in den beiden Uebersetzungen verschieden war. Ob die Kymren vorzugsweise blond oder braun seien, konnte ich, trotz aller Bemühungen, nicht mit Sicherheit ausmachen.
Ni pharhaodd y tawelwch yn hir: roedd Gŵyl y Cymreigyddion wedi cyrraedd (9-10 Hydref [1839]) gyda’i hwyl farddonol a’i seiniau cymysg Cymraeg a Saesneg …. Roedd presenoldeb Lepsius yn gwella’r dathliadau; ymweliad yr anrhydeddus Ddr Prichard fu’r addurn Seisnig harddaf ar yr ŵyl, ac er mai yntau oedd yr unig un nad oedd neb yn ei adnabod, ef yw’r unig un sydd wedi ysgrifennu’n academaidd ar y Gymraeg yn Ewrop! Yr hyn sy’n arbennig o hudol am y cynulliad yw naws werinol sain y delyn a’r barddoni a’r canu byrfyfyr. Gwnaed hynny’n fwy nodedig fyth gan bresenoldeb y Cownt Villemarqué o Lydaw, ymchwilydd ifanc uchel ei barch a gasglodd straeon a chaneuon gwerin Llydaw, ac a allai, er syndod a llawenydd mawr y Cymry, gyfathrebu â hwy, er yn amherffaith, yn ei famiaith, er gwaethaf y ffaith i’r ieithoedd fod ar wahân ers 1400 o flynyddoedd. Rhyw adlais braidd yn wan oedd hyn oll o’r gemau Groegaidd, gyda dawnsfeydd y gymdeithas barchus yn cynrychioli’r elfen ystrydebol. Gorfu i mi annerch yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ystod y wledd.
Cefais fwynhad mawr o farddoniaeth Gymraeg gyda diolch i ymchwil medrus Turner a’m hargyhoeddodd bod yr hen ganeuon a’r amrywiol Drioedd yn ddilys. Dangosodd traethawd diymhongar Ricci a cherddi bywiog y bardd Jones Tegid i mi nodweddion yr hen Gymry yng nghanol gwareiddiad Lloegr a dylanwad Cristnogaeth. Dim ond â’r iaith ei hun, y tu hwnt i reolau gramadeg, y methais ymgyfeillachu. Ni allai athro ysgol y pentref, a dderbyniodd ei addysg mewn ysgol Ladin cyn dysgu’r plant yn yr iaith Saesneg a’r Gymraeg yn ysgol y pentref am ugain mlynedd, egluro dim i mi wrth i mi geisio darllen yr Efengyl, unwaith yr oedd trefn y geiriau’n gwahaniaethu rhwng y ddau gyfieithiad. P’run ai yw’r Cymry gan fwyaf yn bryd golau neu’n bryd tywyll, ni allwn ddweud i sicrwydd, er gwaethaf fy holl ymdrechion.
La principale entrée de Llanover (Porth Mawr), est la représentation exace de l’ancienne porte des Tudors, détruite il y a quelques années à Abergavenny. Sur le fronton est gravée une inscription galloise, que je cite pour son caractère d’antique hospitalité.
Qui es-tu voyageur?
Si tu es ami, du fond du cœur sois le bienvenu.
Si tu es étranger, l’hospitalité t’attend.
Si tu es ennemi, la bonté te retiendra.
En descendant de voiture, j’allai remercier lord et lady Llanover pour la gracieuse invitation qu’ils m’avaient faite de passer quelques jours au château. ...
La réception qu’on me fit fut aussi cordiale que gracieuse. Milady me conduisit immédiatement dans son jardin où je m’arrêtai devant un Rhododendron gigantesque de cent cinquante pieds de circonférence. Au milieu d’un petit bois, j’aperçus neuf fontaines provenant de leur sources aussi abondantes l’été que l’hiver, et qui ne tarissent jamais, même dans les plus chaudes saisons. Plus loin, en traversant le parc, nous arrivâmes au village de Llanover. Milady, qui s’occupe du bien-être de tous, était venue nous accompagner, M. Martin et moi. Elle s’arrêta dans plusieurs maisons, et donna à chacun de ses tenanciers des encouragements et de bonnes paroles. L’intérieur des fermes est remarquablement soigné, tous les meubles sont frottés; le foyer est en fer, les parquets luisants et polis rappellent la propreté des maisons hollandaises.
Mae’r brif fynedfa i Lanofer (y Porth Mawr) yn gopi union o’r hen ddrws Tuduraidd a ddinistriwyd ychydig flynyddoedd yn ôl yn y Fenni. Ar y talog, mae arysgrif Gymraeg wedi’i hysgythru; Fe’i dyfynnaf oherwydd yr hyn mae’n ei ddweud am letygarwch yn yr hen ddyddiau:
Pwy wyt, Ddyfodwr?
Os Cyfaill, Croesaw calon i ti
Os Dieithr, Lleteu garwch a’th erys
Os Gelyn, Addfwynder a’th garchara
Gan ddisgyn o’r cerbyd, euthum i ddiolch i Arglwydd ac Arglwyddes Llanofer am eu gwahoddiad caredig i dreulio ychydig ddyddiau yn y castell. ... Roedd y croeso a gefais mor gynnes ag ydoedd yn garedig. Aeth yr Arglwyddes â mi’n syth i’r ardd, lle arhosais gerbron rhododendron anferth, cant a hanner o droedfeddi o’i chwmpas. Yng nghanol coedwig fechan, gwelais naw ffrwd yn llifo o’u ffynonellau, sydd yr un mor llawn yn yr haf a’r gaeaf, ac na fyddant byth yn sychu hyd yn oed yn y tymhorau poethaf. Ymhellach ymlaen, ar draws y parc, daethom at bentref Llanofer. Roedd yr Arglwyddes, sy’n edrych ar ôl lles pawb, wedi dod i hebrwng Mr. Martin a minnau. Galwodd mewn llawer o dai, gan gynnig i bob un o’i thenantiaid galondid a geiriau caredig. Mae’r tu mewn i’r tai fferm yn hynod drwsiadus, yr holl ddodrefn wedi’u cadw’n lân, yr aelwydydd o haearn, a’r lloriau pren wedi’u sgleinio’n ddisglair, gan atgoffa dyn o lanweithdra tai’r Iseldiroedd.
Une autre fois, nous allâmes visiter l’ancienne court de Llanover, c’est-à-dire l’endroit où habitait la famille Hall avant la construction du château, qui ne date que d’une trentaine d’années. La porte d’entrée, un couloir et un bel escalier sont en bois sculpté. Dans la salle, près du foyer je remarquai un vieux siège en bois où quatre peronnes peuvent s’asseoir: c’est là que se réunit la famille après le repas du soir, et c’est le moment que choisissent les vieillards pour conter les légendes de fées qu’affectionnent tans les Gallois. ... Le château élégant et spacieux possède une grande salle (ou hall) remarquable par la haute galerie où se placent les musiciens et les chanteurs, les dimanches et jours de fête. Une première bibliothèque, où se trouvent les portraits de Guillaume III et de Cromwell, fait suite à un magnifique salon orné de tableaux et de curiosités de toutes sortes: au-dessus d’un groupe de porcelaines on distingue le portrait de Nell Gwyn, une des favorites de Charles II.
Dans la deuxième bibliothèque, une tête vigoureuse, signée de Michel-Ange, attira mon attention. Un meuble très-curieux est un coffre en bois de chêne qui contient tous les manuscrits Gallois achetés par lady Llanover au fils d’Iolo Morganwg, le barde du Glamorgan; beaucoup de ces écrits datent du quinzième et seizième siècles et quelques-uns remontent même jusqu’au douzième.
Adeg arall aethom i ymweld â’r hen gwrt Llanofer, lle trigai’r teulu Hall cyn adeiladu’r castell, sydd ond rhyw ddeng mlynedd ar hugain oed. Mae’r prif ddrws, ynghyd â choridor a staer hardd, mewn pren wedi’i gerfio. Yn y neuadd, ger y lle tân, sylwais ar hen gadair bren y gall pedwar o bobl eistedd arni: dyma lle bydd y teulu’n ymgynnull ar ôl y pryd hwyrol, a dyma’r adeg y bydd y rhai hŷn yn adrodd y straeon tylwyth teg sydd mor annwyl gan y Cymry. ... Mae gan y castell chwaethus a helaeth neuadd fawr sy’n arbennig oherwydd ei horiel uchel lle bydd cerddorion a chantorion yn perfformio ar y Suliau a’r gwyliau. Cysylltir y llyfrgell gyntaf, sydd â lluniau o Gwilym III a Cromwell, ag ystafell groeso ragorol wedi’i haddurno â lluniau a phob mathau o bethau cywrain: yn crogi uwchlaw grŵp o ddarnau porslen mae portread o Nell Gwyn, un o ffefrynnau Siarl II.
Yn yr ail lyfrgell, denodd cerflun trawiadol o ben, a lofnodwyd gan Michelangelo, fy sylw. Dodrefnyn diddorol dros ben yw cist dderw sy’n cynnwys yr holl lawysgrifau Cymraeg a brynodd Arglwyddes Llanofer oddi wrth fab Iolo Morganwg, bardd Morgannwg; mae llawer o’r rheini’n dyddio o’r bymthegfed ganrif a’r unfed ganrif ar bymtheg ac mae rhai’n dyddio mor bell yn ôl â’r ddeuddegfed ganrif.