Ystyrir Pont y Borth, a adeiladwyd rhwng 1819 a 1826, yn un o gampweithiau peirianneg sifil Thomas Telford. Mae'r bont ar yr A5, yn hanesyddol y prif lwybr cyflenwi a phost rhwng Dulyn a Llundain, drwy Gaergybi. Hyd nes agorwyd y bont, roedd yn rhaid i deithwyr, nwyddau, ceffylau a choetsys gael eu cludo ar gychod ar draws cerrynt hynod beryglus y Fenai, tra roedd gwartheg yn gorfod nofio drosodd wrth ochr y cychod gan obeithio na fyddai'r anifeiliaid gwerthfawr yn boddi ar y ffordd.
Mae Pont y Borth yn 416 metr o hyd, ac yn 176 metr rhwng y ddau brif biler. Mae'r cadwyni yn dal y ffordd 30 metr uwchlaw lefel y môr fel y gallai llongau hwyliau hwylio o dan y bont. Cyllidwyd y gwaith adeiladu gan y Senedd a chostiodd £120,000. Nid oedd hyn yn cynnwys y £26,394 7s 6d o iawndal a dalwyd i Miss Silence Williams, perchen y gwasanaeth fferi ar draws y Fenai. Amcangyfrifir mai hwn oedd un o'r symiau mwyaf a dalwyd erioed i un unigolyn yn hanes Prydain.
Ers dyddiau ei hadeiladu, mae pont Telford dros y Fenai wedi denu llawer o dwristiaid a ddaeth i ryfeddu at ei mawredd. Pan osodwyd y gadwyn gyntaf ar 20 Ebrill 1825, daeth llawer o bobl i lannau'r Fenai i wylio'r gwaith a barodd am ychydig dros ddwy awr ac a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda dau weithiwr yn cerdded ar hyd top y gadwyn a oedd wedi'i gosod yn ei lle. Ar ôl iddi gael ei gorffen, teithiodd llawer mwy o deithwyr o dramor i weld y bont. Yn eu plith roedd llawer o beirianwyr sifil a archwiliodd bont Telford o bob ongl, gwneud eu mesuriadau eu hunain ac edmygu ei gynllun mentrus, ond gosgeiddig.
Cafodd y bont grog ei hailwampio yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, a symudwyd y llwybr troed i gerddwyr, a oedd gynt yn y canol, i ddwy ochr y bont. Gwnaed y gwaith trwsio diweddaraf yn 2005 pan gafodd y bont ei hail-baentio.
Nach neun Uhr begab ich mich auf die Wanderung der 2 Engl. Meilen entfernten Kettenbrücke (Suspension Bridge) welche Wales mit Anglesea verbindet. Sie ist erst seit vier Jahren vollendet. Früher mußte man über den schmalen Meeresarm in einem Boote sich übersetzen lassen. Um jenen wundervollen Bau zu sehen, hatte ich die Reise hieher unternommen, und bin im höchsten Grade belohnt worden. Mein Weg führte mich durch die an einer kleinen Bucht gelegene Stadt, dann über einen felsigen Hügel. Bald erreichte ich die große herrliche Straße, welche nach Anglesea führt, und erblickte zugleich den schmalen Meeresarm, der diese Insel von Wales scheidet. Untersuchungen des Gesteins am Wege hielten mich einige Zeit lang auf. Dann erblickte ich aber in der Ferne das Riesenwerk, und nun überwand das Interesse welches solches einflößte, den Eifer, mit welchem die Structur der Felsen untersucht worden. Bei jedem Schritte stellte sich die unbeschreiblich kühne Brücke deutlicher und vollständiger dar. An 100 Fuß hohe, gemauerte Bögen steigen an beiden Enden zu 3 und 4 aus dem Wasser empor, und der weite Raum zwischen den beiden äußersten, der 500 Fuß beträgt, ist durch die an einem aus vier Reihen bestehenden Systeme, kettenartig vereinigten eisernen Stangen aufgehängte Brücke verbunden. Von beiden Seiten führen gemauerte Bögen, über welche die Ketten zu den Befestigungspuncten an den äußersten Enden der ganzen Brücke fortgeleitet sind, zum mittleren Haupttheil derselben. Zu beiden Seiten sind Bahnen für das Fuhrwerk, und in der Mitte befindet sich die Bahn für Fußgänger. Weit verfolgt das Auge unter der Brücke durch den Meeresarm, und ein herrlicher Anblick ist es, wenn ein Schiff mit vollen Seegeln unter derselben sich fortbewegt. Man erhält dadurch erst das Maaß für die Höhe der Brücke über dem Wasserspiegel, so wie die verhältnißmäßig sehr geringe Größe eines über die Brücke fortschreitenden Menschen die kolossale Größe derselben bestimmter schätzen läßt. Ich gieng über die Brücke hin und zurück, und sehr schwer wurde es mir, mich von dem unvergleichlichen Anblicke derselben zu trennen. Sie ist ohne Zweifel die größte und schönste Brücke dieser Art, welche bisher gebauet worden.
Ar ôl naw o’r gloch cychwynnais i gerdded y ddwy filltir at y bont gadwyn (pont grog) sy’n cysylltu Cymru a Môn. Dim ond pedair blynedd yn ôl y cafodd ei chwblhau. Yn yr hen ddyddiau, byddai’n rhaid croesi’r culfor cul mewn cwch. Roeddwn wedi ymgymryd â’r daith er mwyn gweld y strwythur rhyfeddol hwn a chefais fy ngwobrwyo i’r eithaf. Aeth fy llwybr yn gyntaf drwy’r dref ger bae bach cyn croesi bryn creigiog. Yn fuan, cyrhaeddais y ffordd fawr, ragorol, sy’n arwain tuag at Fôn, ac ar yr un pryd, gwelais y culfor sy’n gwahanu’r ynys oddi wrth Gymru. Gwnes rhai archwiliadau daearegol o’r creigiau ar y ffordd, a gymerodd beth amser, ond yn fuan gwelais y campwaith enfawr yn y pellter. Ar y pwynt hwnnw, trechodd y diddordeb a enynnodd yr olygfa honno fy sêl am archwilio strwythur y creigiau. Gyda phob cam, deuai’r bont anhygoel o feiddgar hon yn fwy amlwg a chyflawn. Dringai tri neu bedwar o bileri o’r dŵr ar y ddau ben hyd at fwâu o waith carreg a oedd yn gan troedfedd o uchder a chroesir y bwlch 500 troedfedd o led rhyngddynt gan y bont sy’n crogi wrth system o bedair rhes o rodiau haearn wedi’u cysylltu â chadwyni. Gan grogi o fwâu carreg yn y ddau ben, arweinia’r cadwyni i’w hangorfeydd ym mhennau pellaf y bont gyfan. Y bwâu carreg eu hunain sy’n rhoi mynediad i’r prif ddarn yng nghanol y bont. Mae llwybrau ar gyfer cerbydau ar y ddwy ochr ac yn y canol mae ffordd i gerddwyr. O dan y bont mae’r llygad yn dilyn y culfor am bellter hir ac mae’n olygfa arbennig o drawiadol pan welir llongau mewn llawn hwyl yn teithio oddi tani. Dim ond bryd hynny y sylweddolir pa mor uchel yn wir yw’r bont uwchlaw wyneb y dŵr. Yn gyffelyb, mae maint cymharol fach person yn cerdded ar ei thraws hefyd yn darlunio ei maint anferthol. Cerddais yn ôl ac ymlaen dros y bont a daeth yn anodd dros ben i mi orfodi fy hun i adael golygfa nad oes ei thebyg. Heb amheuaeth, dyma’r bont fwyaf a harddaf o’i bath a adeiladwyd hyd yma.
Wie Erwin von Steinbach durch den Bau des Straßburger Münster schon bei seinen Lebzeiten sich das schönste Denkmal gesetzt hat, so Telford durch die Menai-suspension-bridge. Befände sich die Conwaybrücke in unmittelbarer Nähe, so daß man einen sicheren Vergleich anstellen könnte, so würde diese in eben dem Maße verschwinden als ein neben einem Linienschiffe liegender Ostindienfahrer liliputartig erscheint.
Bevor diese Brücke gebaut wurde, war die Verbindung Englands und Irlands vorzüglich im Winter eine unsichere und gefährliche. Nur durch eine feste Brücke über die Menai Strait konnte eine ununterbrochene Passage hergestellt werden. Im Jahre 1818 legte Telford den Plan seines genialen Gedankens dem Parlamente vor; 1820 wurde der Grundstein der ersten Pfeiler gelegt, und schon 1826 die Brücke dem Verkehr übergeben.
Die Brücke besteht aus drei Theilen. Drei Pfeiler sind auf der Küste von Carnarvonshire errichtet; es folgt dann die eigentliche Kettenbrücke, die eine Länge von 560 Fuß hat, dann die im Meeresgrund erbauten, der Insel Anglesey zugekehrten Pfeiler. Der erste und letzte Theil der Brücke wird von den Engländern pier genannt. Die ganze Brücke ist 910 Fuß lang. Die Höhe über dem Spiegel des hohen Wasserstandes beträgt 160 Fuß.
In der Mitte der Brücke befindet sich der Weg für die Fußgänger, an beiden Seiten für die Wagen eine Passage; jede hat eine Breite von 12 Fuß. Die ganze Brücke hat 120,000 £ Sterling gekostet [ca. £10,3 Mio. oder €11,3 Mio. in 2017]. Wir ließen unsere Wagen zu Anfang der Brücke halten und gingen zu Fuß hinüber, um von der Mitte der Brücke aus die prachtvolle Aussicht nach beiden Seiten der Menai Strait zu genießen.
Yn union fel y bu i Erwin von Steinbach adeiladu cofadail iddo’i hun yn ystod ei oes ar ffurf Cadeirlan Strasbourg, felly y gwnaeth Telford â Phont Grog Menai. Pe byddai Pont Conwy gerllaw fel y gellid eu cymharu’n uniongyrchol, byddai fel petai’n diflannu yn union fel y bydd East Indiaman sydd wedi ei angori’r drws nesaf i leiner y cefnfor yn edrych fel rhywbeth o Lilipwt.
Cyn adeiladu’r bont, roedd y cyswllt rhwng Lloegr ac Iwerddon yn anniogel a pheryglus yn enwedig yn ystod y gaeaf. Dim ond pont gyflym dros Gulfor Menai a allai warantu taith ddi-dor. Yn y flwyddyn 1818, cyflwynodd Telford gynlluniau ei syniad celfydd i’r Senedd; gosodwyd y garreg sylfaen ym 1820, ac ym 1826 agorwyd y bont i drafnidiaeth.
Mae tair rhan i’r bont. Codwyd tri philer ar lan Sir Gaernarfon; fe’u dilynir gan y bont gadwyn ei hun, sydd yn 560 troedfedd o hyd; yn nesaf daw’r pileri ar ochr Môn, a adeiladwyd ar wely’r môr. Pierau sy’n nodi dau ben y bont. Mae’r bont gyfan yn 910 troedfedd o hyd. Ei huchder uwchlaw’r dŵr ar benllanw yw 160 troedfedd.
Mae palmant i’w ddefnyddio gan gerddwyr ar ganol y bont; ar y naill ochr a’r llall iddo ceir llwybrau i gerbydau, y ddau yn 12 troedfedd o led. Costiodd y bont gyfanswm o £120,000 [hynny yw, £10.3 miliwn neu €11.3 miliwn yn 2017]. Gadawsom ein cerbydau wrth y fynedfa i’r bont a cherdded ar ei thraws er mwyn mwynhau’r olygfa wych i’r ddau gyfeiriad ar hyd Culfor Menai o’r darn canol.
Au travers de ce vaste tableau de marine, un grand chemin se dessine parmi les nuages. Jeté dans l’espace, il semble ne tenir qu’à de faibles cordages, et franchit un intervalle d’environ douze pieds. ... Qu’on est pressé de tenter soi-même ce passage curieux, d’éprouver les sensations que l’imagination y attache! Je l’ai d’abord parcouru à pied, marchant avec lenteur. Des chariots allaient et venaient en même temps, comme s’ils eussent été en rase campagne. Remontés en voiture, nous l’avons franchi au grand trot. L’eau était haute. Nous la voyions à cent pieds de profondeur. Les barques qui voguaient au-dessous de nous semblaient des esquifs, et leurs matelots des enfants. Un navire de cinq cents tonneaux aurait pu passer toutes voiles déployées sans risquer de heurter aucun des points de cette voûte aérienne. ...
Ce spectacle [la pose de la chaîne] avait attiré chaque fois une grande affluence. On parle encore aujourd’hui de l’enthousiasme des curieux qui se pressaient sur les hauteurs d’alentour, ou remplissaient les barques pavoisées dont le détroit était couvert. La fête la plus solennelle fut celle de l’ouverture du pont. Elle eut lieu le 30 janvier dernier à une heure après midi. Malgré la pluie tombée par torrents pendant toute la matinée, on arrivait de toutes parts. Avant midi le temps s’éclaircit et devint magnifique. La malle de Londres à Dublin passa la première. Des voitures particulières la suivirent. Leur nombre augmentait à chaque instant. On les voyait courir entre les drapeaux qui flottaient au-dessus du pont et le long de ses garde-fous. Le canon tirait par intervalles. Un corps de musique faisait retentir l’air de fanfares nationales.
Yn y morlun enfawr hwn, gellir gweld llwybr mawr drwy’r cymylau. Gan ymestyn ar draws y wybren, ymddengys mai ond rhaffau ysgafn sy’n ei ddal, gan groesi bwlch o tua deuddeg troedfedd. Mor ddiamynedd ydym i fentro ar y llwybr rhyfedd hwn ein hunain, i brofi’r effeithiau mae ein dychymyg wedi eu llunio yn ei gylch! Croesais gyntaf ar droed, gan gerdded yn araf. Roedd troliau’n mynd a dod ar yr un pryd, fel petasent yn teithio yng nghanol y wlad. Ar ôl dychwelyd i’n cerbyd, croesasom gyda’r ceffylau’n trotian yn gyflym. Roedd y llanw’n uchel. Gwelsom y dŵr gan troedfedd oddi tanom. Ymddangosai’r cychod a hwyliai danom fel sgiffiau, a’r morwyr arnynt fel plant. Byddai llong pum can tunnell wedi gallu hwylio danom mewn llawn hwyl heb unrhyw berygl o daro unrhyw ran o’r bwa awyrol hwn.
Roedd y sioe hon [gosod cadwyn] wedi denu torf fawr bob tro. Deil pobl i siarad heddiw am frwdfrydedd y bobl chwilfrydig a brysurodd i fryniau cyfagos neu a lenwodd y cychod addurnedig a frithai’r culfor. Y dathliad pwysicaf oedd adeg agor y bont. Digwyddodd hynny ar 30 Ionawr eleni am un o’r gloch. Er gwaethaf glaw llifeiriol drwy’r bore, daeth pobl o bobman. Cyn hanner dydd, ciliodd y glaw a chododd yn ddiwrnod hynod braf. Cerbyd y Post o Lundain i Ddulyn oedd y cerbyd cyntaf i groesi, yna daeth cerbydau preifat – a chynyddai eu niferoedd bob eiliad. Fe’u gwelid yn teithio rhwng y baneri a hedfanai uwchlaw’r bont ac ar ei rheiliau. Taniai magnel o bryd i’w gilydd. Llenwai seindorf yr awyr â ffanfferau cenedlaethol.
Quelque temps après, M. Telford construisit le fameux pont de Menay, le plus hardi et le plus élégant de tous les ponts suspendus jusqu’au jour où fut jeté sur la vallée de la Sarine le pont de Fribourg en Suisse. Le pont de Menay ou de Bangor joint l’île d’Anglesey à la côte d’Angleterre; les plus grands bâtiments passent dessous à pleines voiles. Sa longueur totale est de 516 pieds, son tablier est à 100 pieds au-dessus du niveau de la haute mer. ...
Le véritable point de vue pour considérer le pont de Menay, est sur la grève, à environ cent pas de distance, auprès de quelques cabanes de pêcheurs. On dirait d’un merveilleux bijou en filigrane, qu’une fée se serait amusée à jeter dans les airs. Quand on voit à demi voilée par les chaînes une diligence attelée de quatre chevaux glisser rapidement sur cette arche de 100 pieds de haut et de 600 pieds d’ouverture, on dirait presque une volée d’alouettes prises dans un filet. Des hommes occupés à peindre les chaînes, me firent l’effet de grosses mouches. Le pont a une chaussée et deux trottoirs. Le tablier entier repose sur une grille de fer, de sorte qu’au premier accident qui survient, les planches s’enlèvent facilement et on les remplace par d’autres. Tous les trois ans le fer reçoit une couche de peinture, destinée à le garantir de la rouille. L’architecte à qui l’on doit ce bel ouvrage, s’appelle Telford.
Beth amser ar ôl hynny, adeiladodd Mr Telford yr enwog Bont Menai, y bont grog fwyaf mentrus a lluniaidd ohonynt oll hyd y diwrnod yr agorwyd Pont Fribourg dros Ddyffryn Sarine yn y Swistir. Mae Pont Menai neu Bont Bangor yn cysylltu Ynys Môn ag arfordir Lloegr; teithia’r llongau mwyaf oddi tani mewn llawn hwyl. Cyfanswm ei hyd yw 516 troedfedd ac mae’r ffordd arni’n gan troedfedd uwchlaw lefel y dŵr ar benllanw. ...
Y lle gorau i sefyll i weld Pont Menai yw ar y lan, tua chan cam i ffwrdd, ger casgliad o gytiau pysgota. Mae’n edrych yn union fel siâp tlws gwych y mae un o’r tylwyth teg wedi’i daflu i’r awyr am hwyl. Pan gewch gip, rhwng y cadwyni, ar goets yn cael ei thynnu gan bedwar o geffylau’n llithro’n gyflym dros y bwa hwn, 100 troedfedd o uchder a 600 troedfedd ar ei draws, ymddengys ymron fel haid o ehedyddion wedi’u dal mewn rhwyd. Roedd y dynion a oedd wrthi’n peintio’r cadwyni yn ymddangos i mi fel pryfaid mawr. Mae gan y bont ffordd a dau balmant. Gorwedd y cyfan o’r ffordd ar grid haearn, fel y gellir trwsio unrhyw ddifrod yn syth ond trwy dynnu darn a rhoi un yn ei le. Bob tair blynedd bydd yr haearn yn derbyn cot o baent i’w amddiffyn rhag rhwd. Y pensaer yr ydym yn ddyledus iddo am y gwaith hardd hwn yw dyn o’r enw Telford.