Gwelir tystiolaeth o anheddu ar raddfa fechan yn yr ardal o amgylch Merthyr Tudful o'r cyfnodau cynhanesyddol ymlaen, ac mae'r enw'n tarddu o'r chwedl am y Santes Tudful. Roedd hi'n un o ferched niferus y brenin o'r bedwaredd ganrif, Brychan Brycheiniog, ac fe'i merthyrwyd dros ei ffydd. Tan ganol y ddeunawfed ganrif roedd y cwm yn denau ei boblogaeth gyda ffermio a magu da byw yn brif economi, er bod pentref bychan wedi datblygu ar safle'r dref fodern bresennol.
Yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif darganfuwyd dyddodion helaeth o fwyn haearn, glo a charreg galch, gan ei wneud yn lleoliad delfrydol i'r diwydiant haearn newydd a oedd yn arwain y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain.
Yn 1759 sefydlwyd y gwaith haearn mawr cyntaf yn Nowlais. Yn fuan wedyn agorwyd gweithiau newydd, yn cynnwys Plymouth, Cyfarthfa a Phenydarren, a gweddnewidiwyd Merthyr Tudful yn llwyr. Dan berchenogaeth John Josiah Guest rhwng 1807 a 1852, daeth Dowlais i fri rhyngwladol fel gwaith haearn mwyaf y byd. Cyflogai 8,800 o weithwyr a chynhyrchu 88,000 tunnell o haearn y flwyddyn. Erbyn 1820 roedd Merthyr yn cynhyrchu 40 y cant o allforion haearn Prydain, tra yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, troswyd llawer o'r gweithiau i gynhyrchu dur yn hytrach na haearn.
O ganlyniad i'r cynnydd cyflym mewn cynhyrchu diwydiannol a mwyngloddio, cynyddodd poblogaeth Merthyr Tudful yn aruthrol. Yng nghyfrifiad 1801 cofnodwyd bod 7,000 o bobl yn y plwyf - erbyn 1910 roedd gan Ferthyr Tudful bron 90,000 o drigolion.
O ganlyniad i gyflwr enbyd y terasau tai digynllun a ddarparwyd i'r gweithwyr a'r diffyg carthffosiaeth, ceid afiechydon ofnadwy a llawer yn marw'n ifanc iawn. Yn ogystal â chyflogau isel y gweithlu diwydiannol a'r amodau gwaith gwael, cythruddid y gweithwyr yn fawr gan y 'gyfundrefn ffeirio' a weithredid gan y meistri haearn. Dan y drefn hon nid oedd y gweithwyr yn cael eu talu mewn arian go iawn, ond gyda thalebau a thocynnau na ellid eu defnyddio ond yn siopau'r meistri eu hunain. Cyfrannodd hynny'n helaeth at yr aflonyddwch cymdeithasol cynyddol. Ffrwydrodd y tensiynau hyn yn Nherfysg Merthyr yn 1831. Am y tro cyntaf erioed, unodd y gweithwyr dan y faner goch gan reoli'r dref i bob pwrpas am bedwar diwrnod. Aeth y sefyllfa allan o reolaeth ac anfonwyd milwyr i'r dref i wastrodi'r mudiad. Arestiwyd un o'r arweinwyr, Dic Penderyn (Richard Lewis), a'i grogi, tra dedfrydwyd eraill i'w caethgludo i Awstralia.
Er nad oedd yno harddwch pictiwresg adfeilion canoloesol neu fawredd mynyddoedd Eryri, eto roedd Merthyr Tudful yn tynnu nifer cyson o ymwelwyr o gyfandir Ewrop. Yn ystod y dydd byddai'r teithwyr yn astudio'n ofalus y dulliau cynhyrchu diweddaraf yn y ffatrioedd niferus, ac ar ôl iddi nosi roeddent yn rhythu mewn rhyfeddod at danau enfawr y ffwrnesiau'n goleuo'r cwm cyfan.
Oherwydd bri rhyngwladol y dref yn y maes diwydiannol, daeth diwydiannau cynhyrchu ysgafnach i gymryd lle cynhyrchu dur a haearn, a oedd yn edwino erbyn canol yr ugeinfed ganrif. Heddiw, mae projectau adfer tir mawr ar y gweill i wella'r tirweddau a anrheithiwyd gan y pyllau glo a chynhyrchu metelau, tra bo amgueddfeydd, megis Amgueddfa Castell Cyfarthfa, yn cadw treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful yn fyw.
Näher hierher nach Merthyr Tydvil zu, wurden die Eisenwerke immer zahlreicher, überall an den Bergen Hüttenwerke und Halden, kleinere Eisenbahnen und Kanäle, alles für den Transport des Eisens. In einem Thale sah man unten einen Kanal und die Eisenbahn für Dampfzüge, weiter oben zog sich unsre Fahrstraße hin, und noch höher oben war eine zweite Eisenbahn für Pferde zum Besten des Grubentransports und der Arbeiter. – Wir trafen weiterhin auf solcher Eisenbahn einmal ganz lange Züge von schwarzen Kohlenwagen und andern, mit schwarz und braunbestäubten Arbeitern besetzten Waggons! – es gab einen seltsamen Anblick! – Und welche Berge von Schlacken schichten sich hier auf! – Die Ausbeute dieser Gebirge an Eisen muß ganz ungeheuer seyn! –
Der Menschenschlag verändert sich hier ganz und wird unschön; die Frauen tragen runde Männerhüte oder schwarze Strohkappen auf den Köpfen, und dabei eine wunderliche ungeschickte Kleidung: ich wurde ein paar Mal an die Frau aus Unalaschka in Cooks Reisen erinnert.
Alle andern Betrachtungen schwinden jedoch, sobald einem die Größe und der Umfang der Eisenwerke hier am Orte selbst deutlich wird. Schon das erste wo sechs Hoheöfen brannten, gewährte einen wundersamen Anblick. Über den flammenden Kegeln der Hoheöfen zitterte die erhitzte Luft und machte, daß die Contoure der dahinter aufsteigenden Schlackenberge Wellen schlugen. – Mir fielen bei diesen Schlackenbergen höhere Vulkane ein, und die Hoheöfen erinnerten an kleinere brennende Auswurfskegel an deren Seiten. – Noch viel mächtiger aber wurden die Eindrücke, als wir weiter hinaufstiegen und die großen Eisenwerke von Sir John Guest u. Comp. in Augenschein nahmen. Man konnte sich hier in die glühende Stadt des Dis im Dante versetzt glauben! – Man führte uns zuerst nach den Gruben, deren ungeheure Ausbeute an Kohlen und Eisen zugleich, alles dieses erst möglich macht. – Es kann von der Größe der Production einen Begriff geben, wenn man hört daß nur in den letzten fünf Wochen 36.000 Tonnen Kohlen heraufgefördert worden waren; zuweilen 1500 in einem Tage; und alle diese Kohlen werden auch im Werke selbst verbraucht. Gleich daneben werden dann zugleich auch ähnliche Mengen von Eisenstein heraufgebracht. – Freilich sind die Arbeitskosten auch ungeheuer! – Die Werke haben circa 6000 Arbeiter täglich, und das Arbeitslohn mit sonstigen Unterhaltungskosten steigt dann monatlich gewöhnlich bis zu 26.000 Pfund Sterling! ...
Es interessirte mich sehr an der weiten doppelten Schachtöffnung zu stehen und zuzusehen, wie – bewegt durch eine nahe gestellte Dampfmaschine und geleitet durch eine unterirdische Eisenbahn – auf einer Seite die Reihe leerer Wagen und eine Anzahl Arbeiter mit Grubenlichtern in den Berg hineingefahren wurdem, während auf der anderen Seite bald darauf eine andre Reihe Wagen theils mit Kohlen theils mit Eisen gefüllt, und mit andern Arbeitern besetzt heruaskamen. – Die Sorglosigkeit mit welcher auch hierbei verfahren wurde, konnte zeigen was tägliches Ausssetzen an Gefahr über den Menschen vermag. Viele dieser Arbeiter kamen aus dem schief aufsteigenden Schacht herauf – ganz frei und aufrecht auf demselben Drahtseile wie Equilibristen stehend, welches mit Schnelligkeit der Dampfkraft die Wagenreihe aus dem Berge hervorzog. Es hätte nur einer Seitenschwenkung im Dunkel der Höhlen bedurft, und der Mann stürtze herab und wäre von dem nachfolgenden Wagenzuge zerquetscht worden. – Indeß ist diese Sorglosigkeit nicht nur in diesen Parforcetouren sichtbar, sondern auf gleiche Weise wird auch im Innern verfahren. Daher namentlich, trotz Davy’s Sicherheitslaterne, häufiges Entzünden schlagender Wetter. Wir erfuhren daß erst heute früh im Schacht drei Arbeiter auf diese Weise durch Gasentzündung verbrannt waren.
Wrth i ni agosáu at Ferthyr Tudful, deuai’r gweithfeydd haearn yn fwy niferus; gwelsom weithfeydd mwyndoddi a ffyrnau ym mhobman, a rheilffyrdd bach a chamlesi ar gyfer cludo’r haearn o un lle i’r llall. Mewn un dyffryn, gwelsom gamlas oddi tanom a rheilffordd ar gyfer locomotifau; uwchlaw hynny, y ffordd y teithiem arni, ac yn uwch fyth, tramffordd ar gyfer cludo deunyddiau a gweithwyr ar gyfer y mwyngloddiau. Bu i ni gyfarfod ar achlysur arall, ar dramffordd gyffelyb, drên hir o wagenni glo du a wagenni eraill yn llawn o weithwyr yn ddu a brown gan lwch – golygfa ryfedd! Ac o’r fath fynyddoedd o wastraff a oedd wedi pentyrru. Yn sicr, rhaid bod peth wmbredd o haearn yn cael ei gynhyrchu yn y mynyddoedd hyn.
Mae’r hil o bobl a ganfuom yma yn wir wrthwyneb i fod yn lluniaidd; mae’r gwragedd yn gwisgo hetiau dynion ar eu pennau, neu hetiau gwellt duon, ac ynghyd â hynny wisg letchwith afluniaidd iawn. Cefais fy atgoffa unwaith neu ddwywaith am wragedd Unalaska, y cyfeirir atynt yn ‘Cook’s Voyages’.
Anghofir pob ystyriaeth arall, fodd bynnag, pan ddeuir i ddeall maint ac ehangder y gweithfeydd haearn eu hunain. Roedd y gwaith cyntaf i ni ymweld ag ef, lle roedd chwe ffwrnais chwyth ar waith, yn olygfa anhygoel. Uwchlaw simneiau fflamllyd y ffwrneisi chwyth roedd yr awyr poeth yn crynu, gan wneud i’r mynyddoedd gwastraff y tu ôl iddynt ymddangos yn donnog. Ni fedrwn lai na dychmygu mai llosgfynyddoedd oedd y pentyrrau sorod hynny, gyda’r ffwrneisi chwyth fel craterau tanllyd bychain ar ochrau’r rhai mwy. Cawsom argraff lawer mwy pwerus pan aethom ymhellach i weld y gwaith haearn mawr sy’n perthyn i Syr Sir John Guest a’i Gwmni. Gallai dyn yn hawdd ddychmygu ei fod wedi’i drosglwyddo i ddinas danllyd Dis, y mae Dante’n sôn amdani! Fe’n tywyswyd gyntaf i’r mwyngloddiau y gwnaeth y symiau anferth o lo a haearn a gynhyrchir ynddynt wneud hyn oll yn bosibl. Gellir cael rhyw syniad am faint yr ydys yn sôn o’r ffaith bod 36,000 tunnell o lo wedi’i dorri yn y pum wythnos diwethaf, weithiau 1500 tunnell y dydd, a bod yr holl lo hwnnw’n cael ei ddefnyddio yn y gwaith. Yn agos at y lofa honno mae mwynglawdd sy’n cynhyrchu swm tebyg o garreg haearn. Mae’r gost, wrth gwrs, yn enfawr! Mae’r gwaith yn cyflogi tua 6000 o weithwyr bob dydd, ac mae cyflog y gweithwyr hynny, ynghyd â bwyd ac ati, yn dod i oddeutu 26,000l y mis! ...
Roeddwn hefyd â diddordeb mawr mewn sefyll wrth fynedfa ddwbl y siafft, gan sylwi ar y modd, wedi’u cychwyn gan injan ager, a’u hanfon ar hyd rheilffordd danddaearol, ar un ochr y cludid rhes o wagenni gweigion, ynghyd â nifer o weithwyr, gyda lampau mwyngloddwyr, i mewn i’r mynyddoedd; tra, ar yr ochr arall, yn fuan wedyn deuai nifer o wagenni wedi’u llwytho â charreg haearn a glo, ynghyd â gweithwyr eraill, allan o’r ceudwll. Roedd agwedd ddidaro’r gweithwyr yn ddigon i ddangos effaith wynebu perygl yn feunyddiol. Daeth nifer o’r dynion allan o’r siafft a oedd ar osgo heb ddal gafael o gwbl a chan sefyll yn dorsyth ar y rhaff a dynnai’r wagenni allan o ganol y mynydd. Byddai gwyro’r mymryn lleiaf i un ochr neu’r llall yn nhywyllwch yr ogof wedi bod yn ddigon i daflu’r dyn o’i le a byddai wedi ei fathru’n ddarnau gan y wagen nesaf. Mae’r agwedd ddidaro honno, fodd bynnag, nid yn unig yn amlwg mewn arddangosiadau o allu o’r fath ond mae hyd yn oed i’w gweld mewn modd cyffelyb y tu mewn i’r mwynglawdd. Felly, er gwaethaf lamp diogelwch Davy, mae damweiniau’n digwydd o hyd oherwydd nwy pwll glo. Dim ond y bore heddiw, lladdwyd tri gweithiwr yn y modd hwnnw yn un o’r gweithfeydd.
Die Erwartung wird mehr und mehr gespannt, und oben, wo das Thal sich schließt und die Berge zusammenrücken, liegen Dawlais-Works, links an und auf dem Berge der Flecken Dawlais mit einigen hervortretenden kleinen Kirchen und Kapellen. Wie wir uns nähern, macht unser Kutscher uns aufmerksam auf eine derselben, als Sir John’s Kapelle, da Sir John Guest allein dieselbe bauen ließ, auf Sir John’s Markthalle und auf dessen Wohnhaus, unmittelbar über den Werken; dann auf den Garten für Sir John’s Pferden und drei Spazierreiter, die uns begegnen, sind nicht minder Sir John’s Chirurgen. Unser Omnibus hält vor einem kleinen reinlichen Gasthofe, in der Hauptstraße von Dawlais und wir sind am Ziele. Man hört die Dampfmaschinen arbeiten, die Gebläse brausen; aus den Fenstern der obern Etage sieht man die Flammen aus den Hochöfen flackern, die daher auch die Schlafzimer in der Nacht, wie eine ganz nahe Feuersbrunst, erleuchten und es bedarf einer kleinen Gewöhnung, um dabei ruhig einzuschlafen. ...
Man würde aber Dawlais nicht gesehen haben, wenn man nicht auch in späterer Abendstunde einen Spaziergang nach den umliegendend Höhen gemacht hätte. Sir John Guest kann seinen Gästen zu Dawlais jeden Abend Illumination und Feuerwerk anbieten, wogegen die berühmten Feuerwerke in den Surrey-Gärten in London – wo man den Brand von London im Jahre 1666 großartig genug darstellt – ein Kinderspiel sind. Die Hochöfen gleichen einer brennenden Stadt; die tiefer liegenden Feuer und Essen, mit den beleuchteten hohen Schornsteinen der Dampfmaschinen, einer eben niedergebrannten Stadt. Die noch nicht ausgekühlten Schlacken leuchten am Abende wie glühende Lava; in mächtigen Haufen aufgeschüttet, hie und da an der äußersten Kante ziemlich hoher Berge, ziehen sie sich gleich glühenden Lavaströmen ins Thal hinab. ... Dazu muss man aber nicht an einem Sonnabende oder Sonntage nach Dawlais kommen, denn Sir John Guest sagt nicht nur mit Nelson: „that he expects every man to do his duty,“ sondern er fügt auch hinzu: „that he likes to see every body enjoy his Sunday“, das heißt, er verlangt wohl, daß im Laufe der Woche Jeder seine Schuldigkeit thue, aber er wünscht auch, daß alsdann jeder seinen Sonntag genieße.
Daher erlöschen am Sonnabend Nachmittage in noch ziemlich früher Stunde – mit Ausnahme der Hochöfen, welche natürlich keine Unterbrechung erleiden können – alle übrigen Feuer und die Dampfmschinen hören auf zu stöhnen, aus den nahen und entferntern Werken strömen die Arbeiter und Gespanne zur Stadt.
Cynydda ein disgwyliadau ac o’r diwedd, ym mhen draw’r cwm, gyda’r mynyddoedd yn pwyso’n agos, yno mae gweithfeydd Dowlais, ac i’r chwith ac ar ochr draw’r copa mae pentref bychan Dowlais gydag ychydig o eglwysi a chapeli bychain yn amlygu eu hunain. Wrth i ni agosáu at y lle, mae gyrrwr ein cerbyd yn cyfeirio at un ohonynt fel capel Syr John, gan mai syr John Guest ei hun a drefnodd ei adeiladu, yna mae neuadd farchnad Syr John, a’i ystâd yn union uwchlaw’r gweithfeydd; yn nesaf, yr ardd ar gyfer ceffylau Syr John ac nid yw’r tri marchog ar daith sy’n mynd heibio i ni’n neb llai na llawfeddygon Syr John. Daw ein cerbyd i ben ei daith o flaen gwesty bach taclus ar Stryd Fawr Dowlais ac rydym o’r diwedd ar ddiwedd ein siwrnai ninnau. Gellir clywed oddi yno’r peiriannau ager wrth eu gwaith a rhu’r meginau; o’r ffenestri ar y llawr cyntaf gellir gweld fflamau’r ffwrneisi chwyth sydd, fel storm dân gyfagos, yn goleuo’r ystafelloedd gwely yn y nos fel ei bod yn cymryd tipyn o gynefino â hynny er mwyn gallu cysgu’n dawel. ...
Eto, ni fyddem wedi gweld Dowlais yn iawn heb fynd am dro dros y bryniau o gwmpas yn hwyr gyda’r nos. Yn Nowlais, gall Syr John gynnig i’w westeion sioe oleuadau a thân gwyllt bob nos. O gymharu, dim ond megis teganau oedd yw tân gwyllt enwog Gerddi Surrey yn Llundain (lle maent yn darlunio’n rhyfeddol Dân Mawr Llundain ym 1666). Mae’r ffwrneisi chwyth yn debyg i ddinas ar dân, ac is i lawr, mae’r tanau a’r ffyrnau, ynghyd â simneiau tal goleuedig y peiriannau ager, yn edrych fel dinas sydd newydd losgi i’r llawr. Yng ngoleuni’r hwyr, mae’r pentyrrau sorod, sydd heb lwyr diffodd, yn disgleirio fel lafa gloyw; wedi adeiladu i faint bryniau, yma ac acw ar ffin eithaf y mynyddoedd uchel, maent y llifo i’r cwm megis lafa tanllyd. ... Fodd bynnag, er mwyn gweld y fath olygfa, rhaid peidio byth â dod i Ddowlais ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, oherwydd bydd Syr John Guest nid yn unig yn dyfynnu Nelson wrth ddweud ‘ei fod yn disgwyl i bob dyn gyflawni ei ddyletswydd’, ond mae hefyd yn ychwanegu ei fod ‘yn hoffi gweld pob dyn yn mwynhau ei Sul’.
Dyna’r rheswm pam – heblaw am y ffwrneisi chwyth, wrth gwrs, na ellir amharu arnynt – yn weddol gynnar bob prynhawn dydd Sadwrn, y bydd yr holl danau eraill a’r peiriannau ager yn darfod eu grwnian, ac y bydd y gweithwyr a’r troliau ceffyl yn heidio o’r ffatrïoedd pell ac agos tua’r dref.
Ici tout prenait un ton triste, sale et misérable, comme si le charbon et le fer ne pouvaient aller qu’avec la boue et la malpropreté, celle qu’ils créent autour des mines et des usines, comme celle dans laquelle vivent, au moins dans le pays de Galles, les ouvriers attachés à leur exploitation. A Merthyr, la ville elle-même offre un aspect triste et rebutant. Les rues ne sont ni balayées, ni lavées; la crotte et l’ordure s’yn entassent; une poussière noire, produite par la fumée et le charbon, s’étend sur les façades des édifices et jusque sur les vêtements et la figure des habitants. Dans un tel milieu, le laisser aller, la négligence, puis la misère prennent vite droit de cité, et voilà comment s’explique peut-être le spectacle navrant dont une portion de la classe ouvrière de Merthyr nour rendit trop souvent témoins.
L’usine de Cyfarthfa, autour de laquelle s’étala pour la première fois devant nous la misère galloise, est une des plus grandes usines à fer du pays de Galles, et partant de toute l’Angleterre. C’est la plus importante de Merthyr Tydvil, après celle de Dowlais. Celle-ci a dix-sept hauts fourneaux pour traiter le minerai de fer et le transformer en fonte, près de cent soixante fours à réverbère pour transformer la fonte en fer malléable, et un nombre proportionné de trains de laminoirs et de marteau-pilons pour achever le traitement métallurgique de fer.
La consistance de Cyfarthfa est moins importante que celle de Dowlais. L’usine n’a que sept hauts fourneaux, quatre-vint-quatre fours à puddler, et n’occupe guère que six à sept mille ouvriers; mais c’est encore un assez beau lot.
De toutes ces vastes usines, le métal entré à l’état de minerai, sort à l’état de fonte moulée, mais surtout à l’état de fer marchand, en barres ou en verges, rond ou carré, en feuilles, lanières, rubans, enfin à l’état de rails. Jamais les usines ne chôment ni de jour ni de nuit. Les hauts fourneaux, géants des foyers métallurgiques, hauts de quinze mètres, peuvent produire jusqu’à quarante mille kilogrammes de fonte par vingt-quatre heures.
Ymddangosai popeth ynglŷn â’r lle hwn yn drist, yn aflan ac yn ddiffaith, fel pe na ellid gwahanu glo a haearn o’r llaid a’r baw, y baw maent hwythau [glo a haearn] yn ei greu o gwmpas y mwyngloddiau a’r ffatrïoedd lawn cymaint â’r baw y mae’n rhaid i’r gweithwyr, gweithwyr Cymru o leiaf, fyw ynddo. Ym Merthyr, ymddengys y dref ei hun yn drist a digroeso. Ni chafodd y strydoedd eu hysgubo na’u glanhau; mae’r budreddi a’r ysbwriel yn pentyrru ynddynt; mae llwch du, o fwg y glo, yn gorchuddio blaen yr adeiladau a hyd yn oed wynebau a dillad y bobl. Yn y fath amgylchedd, bydd dihidrwydd ac esgeulustod, yna amddifadrwydd, yn gwreiddio’n fuan, sydd efallai’n egluro’r olwg drist a gawsom o ran o boblogaeth dosbarth gwaith Merthyr yn rhy aml.
Ffatri Cyfarthfa, o gwmpas yr hon y gwelsom drueni yng Nghymru am y tro cyntaf, yw un o’r ffatrïoedd haearn mwyaf yng Nghymru ac felly yn Lloegr gyfan. Hi yw’r bwysicaf, heblaw Dowlais, ym Merthyr Tudful. Yn Nowlais, ceir dwy ar bymtheg o ffwrneisi chwyth i brosesu mwyn haearn a drawsnewidir yn haearn bwrw, ymron i gant a thrigain o ffwrneisi gydag adlewyrchwyr i drawsnewid haearn bwrw yn haearn y gellir ei weithio, a nifer cymesur o felinau rholio a morthwylion ager i orffen prosesu’r haearn yn fetelegol.
Mae llai o arwyddocâd i Gyfarthfa na Dowlais. Dim ond saith ffwrnais sydd gan y ffatri a phedwar a phedwar ugain o ffwrneisi pwdlo ac nid yw ond yn cyflogi chwech neu saith mil o weithwyr; ond serch hynny, mae’n safle digon gwych.
O’r holl ffatrïoedd enfawr hyn, daw’r metel sydd yn mynd i mewn iddynt fel mwyn haearn allan fel haearn wedi’i fowldio, ond yn fwy pwysig ar ffurf haearn masnachol, fel popeth o fariau neu rodiau, crwn neu sgwâr, dalennau, stribedi, a rhubanau i reiliau. Nid yw’r ffatrïoedd byth yn segur, ddydd na nos. Gall y ffwrneisi chwyth, cewri o flychau tân metelegol pymtheg metr mewn taldra, gynhyrchu hyd at ddeugain mil o gilogramau o haearn bwrw bob pedair awr ar hugain.
Comme il continuait de pleuvoir, et qu’il n’y avait pas moyen ce jour-là de visiter les forges, je pris le parti de faire un voyage à ma fenêtre. L’endroit était bien choisi. Je ne dirai pas que je fusse au centre de la ville, car il n’y a point de centre; mais l’hôtel occupe dans la grande rue un poste d’observation d’où le regard s’étend sur une vaste place jonchée de décombres et très fréquentée. La population de Merthyr Tydvil jouit, il faut le dire tout de suite, d’une assez mauvaise renommée. La veille, à Cardiff, un employé du chemin de fer m’avait engagé à ne point me rendre pendant la nuit dans ce qu’il appelait une ville dangereuse. Je ne vis rien, absolument rien, qui justifiât ses craintes, se ce n’est qu’il y a là une population pautre et grossière. Les habitans peuvent se diviser en deux classes, ceux qui portent des souliers et ceux qui sont pieds nus. Il m’a été difficile de saisir d’autres distinctions, car presque tous sont revêtus des mêmes habits cousus plus ou moins de mille pièces. Une Anglaise disait qu’il fallait venir à Merthyr Tydvil pour apprendre à raccommoder. Si quelque chose étonne, c’est que de tels vêtemens aient jamais pu être neuf. Ces haillons, vus par un jour de pluie, sous une lumière cendrée, ont je ne sais quoi de fantastique et de navrant. Les enfans demi-nus barbottent dans la boue avec l’indifférence de jeunes canards. Les femmes, habillées en grande partie comme les hommes, couvertes de vestes ou de casaques brunes, chaussées de gros souliers à semelle de bois, arpentent bravement le terrain, portant sur le sommet de la tête une cruche, un baril chargé de charbon de terre ou une lourde corbeille de légumes. Un chapeau à couronne plate, fait en paille grossière, leur permet d’asseoir et d’équilibrer le fardeau. ...
J’étais couché depuis quelques heures déjà lorsque je me sentis réveillé en sursaut par un éclat d’incendie . Je courus à ma fenêtre, vis le ciel rouge comme s’il eût été enflammé par une aurore boréale. J’étais sur le point de crier : au feu! Mais comme personne ne bougeait dans l’hôtel et que tout était tranquille dans le voisinage, je me rassurai, et bientôt je me souvins que je vivais cette nuit-là dans le pays des foreges. La lueur sanglante qui empourprait les ténèbres était en effet une réverbération des ironworks.
Gan ei bod yn parhau i lawio, ac na fyddai modd ymweld â’r gweithfeydd haearn y diwrnod hwnnw, penderfynais gymryd gwibdaith at fy ffenestr. Roedd yn ddewis da o safle. Ni ddywedwn fy mod yng nghanol y dref, gan nad oes canol; ond mae’r gwesty [y Castell] fel gwylfa yn y brif stryd o lle y gellir edrych ar draws sgwâr anferth sy’n llawn o ysbwriel ac sy’n brysur iawn. Mae gan boblogaeth Merthyr Tudful, rhaid dweud yn syth, enw go ddrwg. Y noswaith gynt, yng Nghaerdydd, roedd gweithiwr rheilffordd wedi dweud wrthyf am beidio â chyrraedd liw nos yn yr hyn a alwai’n dref beryglus. Ni welais ddim, dim oll, a fyddai’n cyfiawnhau ei ofnau, heblaw am y ffaith fod yma boblogaeth dlawd ac aflednais. Gellir rhannu’r preswylwyr yn ddau ddosbarth, y rhai sy’n gwisgo esgidiau a’r rhai sy’n mynd yn droednoeth. Fe’i cefais yn anodd nodi unrhyw wahaniaethau eraill, gan eu bod bron oll wedi’u gwisgo yn yr un dillad, wedi’u gwnïo â’i gilydd o ryw fil o ddarnau. Dywedodd Saesnes mai Merthyr Tudful oedd y lle i fynd i ddysgu sut i drwsio dillad. Os oes unrhyw beth i synnu ato, y syniad i’r fath ddillad erioed fod yn newydd yw hynny. Mae ynglŷn â’r carpiau hyn, o’u gweld ar ddiwrnod glawog, rywbeth gwallgof a thrallodus. Mae’r plant yn padlo’n hanner noeth yn y llaid, mor ddidaro â hwyaid ifanc. Mae’r gwragedd, wedi’u gwisgo gan fwyaf fel dynion, wedi’u gorchuddio â siacedi brown neu flowsys trwchus, gydag esgidiau trwchus â sodlau o bren, yn cerdded yn hyderus yn ôl ac ymlaen, gan gludo llond jygiau neu fasgedi o lo neu hyd yn oed fasgedi trymion o lysiau ar eu pennau. Mae het â thop gwastad, wedi’i gwneud o wellt garw, yn caniatáu iddynt gadw’r llwyth yn sad a chytbwys. ...
Roeddwn wedi bod yn y gwely ers rhai oriau pan gefais fy neffro gan fflach o dân. Rhedais at fy ffenestr a gweld yr awyr yn goch i gyd fel wedi’i goleuo gan lewyrch yr arth. Roeddwn ar fin gwaeddi: tân! Ond gan nad oedd neb yn symud yn y gwesty [y Castell] a bod popeth i’w weld yn dawel o gwmpas, ymgusurais a chofiais mai yng ngwlad y ffwrneisi yr oeddwn yn trigo’r noson honno. Adlewyrchiad o’r gwaith haearn oedd y golau gwaedliw a droes y tywyllwch yn goch.