Daw enw'r dref o'i safle strategol ar y man isaf y gellir croesi Afon Nedd. Oherwydd bod yr afon mor fas a hawdd ei chroesi yno, sefydlodd y Rhufeiniaid gaer o'r enw Nidum yno c. 75OC a daliwyd i'w defnyddio nes i luoedd Rhufain adael yn y bedwaredd ganrif.
Sefydlwyd dau gastell yn yr ardal yn y ddeuddegfed ganrif, un gan Richard de Glanville a sefydlodd Abaty Nedd hefyd yn 1130. Datblygodd tref a marchnad Castell Nedd yn gyflym o amgylch y castell a'r abaty, ond fe'i hysbeiliwyd yn gyson gan Arglwyddi Cymreig Afan. Erbyn y bedwaredd ganrif at ddeg roedd tref gaerog gref yno, fodd bynnag, a masnach yn ffynnu.
Dechreuodd Castell Nedd ddatblygu diwydiannau trwm yn gymharol gynnar, ac yn yr unfed ganrif ar bymtheg roedd glo'n cael ei gloddio a chopr yn cael ei fwyndoddi yno. Diwydiannwyd y dref yn drwm yn y ddeunawfed ganrif gyda thwf y gweithfeydd haearn, dur a thunplat, ac erbyn 1795 roedd Camlas Castell Nedd wedi ei chwblhau, a chamlas Abertawe i Aberdulais yn 1824. Gyda dyfodiad dwy reilffordd yn 1850 ac 1851 datblygwyd cysylltiad rhagorol rhwng y dref a safleoedd cynhyrchu diwydiannol yn uwch i fyny'r cwm gan ei gwneud yn ganolfan ddiwydiannol o bwys.
Yn ystod y cyfnod Rhamantaidd, roedd teithiwyr a ddeuai i Gastell Nedd yn edrych gyda chymysgedd o arswyd a rhyfeddod ar yr olygfa a welent ar draws y cwm. Roedd harddwch natur ac adfeilion abaty yn un pen i'r cwm yn cyferbynnu'n llwyr â'r mwg a'r fflamau a saethai i'r awyr y pen arall. I deithiwr Rhamantaidd roedd edrych ar Gastell Nedd yn y nos yn sicr fel camu i mewn i ddarlun o'r isfyd.
Auf dem Wege nach Swansea führt die Straße durch das Thal von Neath, reich an Farbe und Abwechslung, und von weitem Umfang, eingerahmt von rostfarbenen Steinhügeln, die in der Ferne in hohe blaue Berge auslaufen. Das Thal beginnt als Paradies und endet als Hölle. Dichte Haine wechseln mit blühendem Gebüsch, dann wieder erheben Gießereien und andere Faktoreien „die Meilenzeiger der Industrie“, ihre hohen Schlote. Dem Gesange von Vögeln hier folgt das Rasseln von Ketten dort, oder das Dröhnen der Hämmer und Stöhnen der Maschinen und mit den Nebeln des Himmels mischen sich die Rauchfahnen der Hochöfen. Rauchgebräunt steht bei dem Dorfe Llan eine hohlängige Ruine – und trübe blicken viele stehende Pfuhle durch Zottelgras. Die Luft ist qualmig und Touristen schelten die Gegend ein Pandämonium. Bei Nacht, wenn zum schwarzen Gewölk fern und nah hundert blutrothe Schlotflammen emporzündeln und das Firmament gleichsam grimmig und lauernd durch den fliegenden Qualm, der wild verzerrte Gestalten annimt, herniederdräut, ist der Eindruck packend und dramatisch, an düstere Bivouak-Gemälde „nach der Schlacht“ erinnernd, Grauen und Flammen und Leichen ringsum! Es wird noch durch Millionen fliegender Funken erhöht, welche die Höllen-Irrwische vor dem Winde ziehen – als wolle der Aschenregen eines Vulkans ein anderes Pompei begraben. Wenn nun, „sobald seine Zeit gekommen“ der Vollmond – wie ein großes feuchtes Auge – mit ziehenden Wolken kämpft, zuckt es oft wie mit elektrischem, wankendem Licht über Berg und Thal, dazu noch dann und wann ein fernes Donnerwetter mit blendendem Zickzack als Hintergrund – dann her mit der Palette! Auch im Pandämonium eines solchen Fabrikthals kann Kunst und Poesie zu thun bekommen. Wer das malen könnte!
Ar y daith i Abertawe, mae’r ffordd yn arwain drwy ehangder Cwm Nedd, sydd â chyfoeth o liwiau ac atyniadau gyda bryniau creigiog lliw rhwd o’i gwmpas, sy’n ymdoddi i’r mynyddoedd uchel glas yn y cefndir. Mae’r cwm yn cychwyn fel paradwys ac yn gorffen fel uffern. Mae yno gellïoedd iraidd yn gymysg â choedlannau blodeuog; yna unwaith eto, cwyd ffowndrïau a ffatrïoedd eraill ‘arwyddbyst diwydiant’, sef eu simneiau. Yno, yn lle canu’r adar, clywir cadwyni’n rhuglo neu forthwylion yn curo a pheiriannau’n griddfan, tra mae’r rhubanau mwg sy’n codi o’r ffwrneisi’n ymdoddi i’r niwl uwchben. Saif murddun gwag wedi ei felynu gan fwg ger pentref Llan, a gwelir pyllau trist o ddŵr marw rhwng y glaswellt blêr. Mae’r awyr yn fyglyd ac mae twristiaid yn osgoi’r ardal fel rhyw fath o bandemoniwm. Yn y nos, ymhell ac agos bydd fflamau gwaedliw yn ffrwydro o’u simneiau ac yn codi i’r cymylau duon; yr un mor filain a bygythiol, mae’r wybren yn gwgu rhwng siapiau gwyllt, gwyrgam cymylau trwchus o fwg. Mae’r olygfa’n ysgytiol a dramatig, ac yn adleisio’r lluniau digalon a welir o wersylloedd milwrol ‘ar ôl y frwydr’, gydag arswyd a fflamau a chyrff ym mhobman! Cryfheir yr argraff honno gan y miliynau o wreichion sy’n rhuthro heibio fel canhwyllau corff cythreulig – mae fel petai cawod o lwch folcanig am foddi Pompeii arall. Mae’n amser codi eich brws arlunio pan, yn sydyn, ‘cyn gynted ag y daeth ei phryd’, mae llygad mawr dyfrllyd y lleuad lawn yn brwydro yn erbyn y cymylau sy’n hwylio drosti ac mae cryndod o oleuni ymron fel golau trydan yn croesi dros y bryniau a’r dyffrynnoedd tra, bob hyn a hyn, mae ffyrch llachar storm bell yn llunio cefndir i hyn oll! Hyd yn oed ynghanol dryswch cwm mor ddiwydiannol, gall celf a cherdd fod wrth eu gwaith. O, pwy a allai dynnu llun y fath le!