Mae cerdded ar Fynydd Parys fel cerdded ar wyneb y lleuad, gyda'r cerrig amryliw a geir yno yn tystio i bwysigrwydd mwyngloddiau copr Ynys Môn ar un cyfnod. Er bod tystiolaeth archaeolegol yn dangos fod copr yn cael ei gloddio o Fynydd Parys mor gynnar â'r Oes Efydd, dechreuodd cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol yn 1768 pan ddarganfuwyd gwythien arbennig o gyfoethog. Datblygwyd y gwaith gan Thomas Williams, 'Brenin Copr' cyntaf y wlad, ac erbyn y 1780au roedd Mwyngloddiau Copr Mynydd Parys, a oedd yn eiddo i Nicholas Bayley, AS dros Ynys Môn, y rhai mwyaf yn y byd. Allforiwyd y mwynau copr o borthladd Amlwch gerllaw i Abertawe, a oedd bryd hynny'n ganolfan fyd-eang mwyndoddi copr. Defnyddid y metel yn arbennig i orchuddio gwaelod llongau pren y llynges yng nghyfnod Nelson.
Daeth llawer o ymwelwyr tramor i weld mwyngloddiau copr enwog Mynydd Parys. Roedd rhai ohonynt yn astudio'r diwydiant yma a'r dulliau mwyndoddi rhagarweiniol, yn ogystal â rhyfeddu at y pyllau mwyngloddio enfawr a'r tomennydd o gerrig gwastraff llachar eu lliwiau. Yn 1796 bu'r barwn ifanc o Awstria, Gottfried Wenzel von Purgstall, ar daith ar hyd a lled Cymru ac arhosodd yma am ychydig. Er ei fod yn ei ddisgrifio ei hun fel lleygwr nad oedd yn deall llawer ar agweddau technegol mwyndoddi, mae ei ddisgrifiad serch hynny'n rhoi argraff dda o'r mwyngloddiau yn anterth y cyfnod cynhyrchu. Tua'r un cyfnod, treuliodd August Gottfried Lentin ychydig wythnosau yng Ngogledd Cymru gyda'r bwriad o astudio mwyngloddio brig ar Fynydd Parys mewn mwy o fanylder. Mae'r gyfres o lythyrau a ysgrifennodd ymysg y disgrifiadau cyfoes gorau o fwyngloddio copr, ei ddiwydiannau cysylltiedig, a'r effaith amgylcheddol a chymdeithasol ar y bobl ac ar ynys Môn.
Er i'r diwydiant edwino'n gyflym yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae effaith mwyngloddio copr ar Fynydd Parys yn dal yn amlwg heddiw gyda'r tirwedd agored o gerrig amryliw a gweddillion adeiladau diwydiannol wedi'u gwasgaru ar hyd y lle. Er bod llawer o lygredd yn y pridd a'r dŵr o hyd, mae rhai planhigion prin yn dal i dyfu ar y safle. Erbyn hyn mae tywyswyr lleol yn cynnig teithiau drwy'r ceudyllau a'r lefelau mwyngloddio hanesyddol.
Der höchste ... liegende Hügel heisst Paris oder Mona Mountain, und in diesem befindet sich das mächtigste jetzt bekannte Kupferbergwerk. Die ... Felsenmassen, welche vom Ufer bis zur Spitze von Paris Mountain allenthalben über den Boden hervorragen, bestehn aus grünlich grauem oder röthlichem Schieferthon, der sehr häufig mit Quarzadern durchschnitten ist, die zuweilen zwölf bis sechzehn Zoll mächtig sind, und in welchen man Kupferkies, und hin und wieder auch Fahlerz und Bleiglanz eingesprengt findet. In einer dieser hervorragenden Felsenmassen entdeckte man auch fasrigten und derben grünen Asbest, allein durchaus keine Spuren von Versteinerungen, oder andern mineralogischen Merkwürdigkeiten. ...
Wer hätte nicht glauben sollen, dass ein Teich voll Kupferwasser, und eine alte Sage, dass die Römer hier auf Kupfer gebaut haben sollten, nicht schon weit früher auf die Entdeckung dieses Bergwerks geleitet haben würde? Und doch giengen so deutliche Fingerzeige nicht nur den Einwohnern lange verlohren, sondern auch ein Bergmeister und seine Bergleute, die hier zum Schürfen hergesandt waren, verstanden sie nicht, und suchten zwei Jahre lang vergebens, bis ihnen der Zufall, der Gehülfe fast aller wichtigen Entdeckungen, die rechte Stelle des Ganges in die Hände führte.
Die Veranlassung zur Entdeckung dieses Bergwerks war folgende. Einer der angesehnsten Gutsbesitzer der Insel, Sir Nicholas Bayley, Vater des jetzigen Grafen Uxbridge, besass in einer andern Gegend der Insel Bleigruben, die seine Vorfahren bearbeitet, aber schon eine geraume Zeit wieder liegen gelassen hatten. Eine Gesellschaft von Schmelzern aus Liverpool erbot sich, sie wieder aufzunehmen, wenn ihnen ein Pachtkontrakt auf ein und zwanzig Jahre bewilligt würde. Bayley willigte ein, doch unter der Bedingung, dass sie auch zugleich Paris Mountain mit in Pacht nehmen, und während der ganzen Zeit eine bestimmte Anzahl Bergleute daselbst arbeiten lassen sollten. So unnatürlich diese Forderung schien, so sahen sich doch die Schmelzer genöthigt sie einzugehn, weil Bayley mit einer Hartnäckigkeit darauf bestand, die ihren Grund in jener Volkssage hatte.
Es wurden daher im Jahre 1765 sechs Bergleute unter Anführung eines Bergmeisters nach Paris Mountain geschickt, um daselbst nach Erzen zu schürfen. Sie setzten einen Schacht am Fusse der Schlucht an der östlichen Seite des Berges an, und trafen auch wirklich auf Kupfererze, weil sie auf ein Nebentrumm vom Hauptgange gekommen waren; allein es war nicht mächtig, keilte sich in der Teufe aus, und das Wasser machte so viel zu schaffen, dass dadurch die Arbeit nicht nur sehr beschwerlich und kostbar wurde, sondern man sahe sich nach einigen Jahren aus dieser Ursache genöthigt, den Schacht ganz zu verlassen.
Es wurde nun an mehreren andern Stellen geschürft, allein mit nicht glücklicherm Erfolg. Als einen letzten Versuch entschloss sich indessen der Bergmeister, an drei verschiedenen Stellen vom Mittelpunkt des Berges nach Süden hin schürfen zu lassen, und hier war sein Unternehmen glücklicher; denn kaum war die Dammerde an der höchsten Versuchstelle weggeräumt, als die Arbeiter auch schon in Erz schlugen, und nun bald fanden, wie mächtig der Gang sei, den sie entdeckt hatten. Diese Entdeckung geschahe im Jahr 1763, zu einer Zeit, wo die Schmelzer schon längst die Bleigruben wieder aufgegeben hatten, weil es sich fand, dass sie völlig abgebaut waren.
Mynydd Parys neu Fynydd Mona y gelwir y mynydd uchaf ... ac yma y gwelir y mwynglawdd copr mwyaf y gwyddys amdano. Mae’r masiff creigiog ... yn torri i’r wyneb rhwng yr arfordir a chopa Mynydd Paris. Mae’n cynnwys siâl gwyrdd-lwyd neu gochaidd sydd â llawer o wythiennau o risialau cwarts, weithiau ddeuddeg i bymtheg modfedd o drwch, sy’n cynnwys pyrit copr, a phob hyn a hyn, ychydig ddarnau o fwyn copr sylffyraidd a galena. Darganfuwyd hyd yn oed peth asbestos ffibrog a gwyrdd garw yn un o’r creigiau hyn sy’n torri drwy’r wyneb, ond hyd yma ni welwyd dim ffosiliau nac unrhyw bethau mwynegol diddorol eraill. ...
Oni fyddid wedi disgwyl y byddai llyn yn llawn o ddŵr coporddwyn a hen chwedl am y Rhufeiniaid yn cloddio yma am gopr wedi arwain at ddarganfod y mwynglawdd hwn lawer cynt? Ac eto, ni sylwodd y bobl leol ar yr arwyddion amlwg hyn am amser maith, a methodd hyd yn oed rheolwr mwynglawdd a’i fwyngloddwyr, a anfonwyd yma i dyllu, â’u deall. Buont yn chwilio am ddwy flynedd heb unrhyw lwyddiant nes i gyd-ddigwyddiad, y cymwynaswr yn achos ymron pob darganfyddiad o bwys, eu harwain at leoliad cywir y wythïen.
Roedd y modd y darganfuwyd y mwynglawdd fel a ganlyn. Roedd un o’r tirfeddianwyr uchaf ei barch ar yr ynys, Syr Nicholas Bayly, tad Iarll presennol Uxbridge, yn berchen ar fwyngloddiau plwm mewn rhan arall o’r ynys, y bu ei gyndeidiau’n cloddio ynddynt, ond a oedd bryd hynny wedi bod yn segur ers tro byd. Cynigiodd corfforaeth mwyndoddi o Lerpwl ddechrau gweithio yno eto pe caniateid prydles o un mlynedd ar hugain iddynt. Cytunodd Bayly, ond ar yr amod eu bod hefyd yn cytuno i gymryd les ar Fynydd Parys ac yn cyflogi nifer benodol o fwyngloddwyr yno. Er mor annaturiol yr ymddangosai’r gofyniad hwnnw, teimlent fod rhaid iddynt dderbyn y cynnig, oherwydd i Bayly, a gredai’r chwedl a grybwyllwyd, ddadlau’n hynod ddisymud drosto.
Ym 1765, felly, cyflogwyd chwe mwynwr a’u hanfon i Fynydd Parys i dyllu am fwynau o dan arolygiaeth rheolwr mwyngloddio. Cloddiasant siafft ar waelod y ceunant ar ochr ddwyreiniol y mynydd a darganfuant fwynau copr gan iddynt gyrraedd ategiad ar ochr y brif wythïen. Fodd bynnag, nid oedd y wythïen hon yn drwchus iawn, gan deneuo ymhellach ymlaen, ac achosodd y dŵr gymaint o drafferth fel yr aeth y gwaith yn anodd a drud iawn, gan orfodi rhoi’r gorau i weithio’r siafft ar ôl ychydig flynyddoedd.
Dechreuwyd cloddio wedyn mewn gwahanol leoliadau, ond heb fwy o lwc. Fel un o’r ymdrechion olaf, penderfynodd y rheolwr gloddio mewn tri lle gwahanol o ganol y mynydd tua’r de. Y tro hwn, bu ei waith yn llawer mwy ffortunus gan i’r mwynwyr daro mwynau cyn gynted ag y cliriwyd y tir ar y man profi uchaf. Yn fuan wedyn, darganfuant yn union pa mor drwchus oedd y wythïen roeddent wedi’i darganfod. Digwyddodd y darganfyddiad hwnnw ym 1763 ar adeg pan oedd y mwyndoddwyr wedi rhoi heibio’r mwyngloddiau plwm drachefn ers tro byd, ar ôl gweld bod y dyddodion ynddynt wedi eu cloddio’n llwyr.
Von Beaumorris ging ich nach Paris mountain, um die Kupferwerke zu besehen. Es war das Besehen dieser Werke für mich um so lehrreicher, weil ich noch vor dem nichts ähnliches gesehen hatte. Für einen, der so wenige physische und mineralogische Vorkenntnisse mitbringt, als ich, kann das Besuchen solcher Plätze wenig mehr Nutzen bringen, als ihm eine sehr oberflächliche historische Kenntniß von der Sache zu geben. Daher kannst du auch keine andere Nachricht, als die eines Laien in wenig passenden und kunstmäßigen Ausdrücken erwarten.
Es sind auf dieser Stelle eigentliche Kupfergruben (Bergwerke). Sie sind nicht sehr tief, doch wie man hier sagt, sehr einträglich.
Das Kupfer, wie es aus der Erde kömmt (du weißt, daß durch Sprengen durch Pulver die Steine los gemacht werden), wird es in eine Art von Ofen gebracht, in dem es so sehr durch eine beträchtliche Hitze erwärmt wird, daß ein Rauch von ihm kömmt. Dieser legt sich in den obern Theil der Öfen an, und dieß ist Schwefel (Sulphur). Wird dieser Schwefel in Feuer gebracht, so wird es eine harte steinartige Masse, und dann ist es Brimstone. Als solcher gibt man diesem Brimstone eine Form von Stangen, und so wird er an Pulverfabriken und an andere Handelsleute verschiedener Art abgesetzt.
Das vom Rauche zurückbleibende Kupfer, welches noch mit Schlacken vermengt ist, wird sodann an die Schmelzöfen gebracht, oder in diesem Zustande zu Schiffe in andere Hände geliefert. ...
Eine Meile von den Bergwerken liegt eine kleine Stadt, nahe derselben sind einige Schmelzöfen. In diesen wird das Kupfer geschmolzen, und wird in einen solchen Stand versetzt, in dem es für die Kupferwerke der Gattung, als die in Neath und Swansea sind, von denen ich dir schon einmahl sprach, brauchbar ist.
Meinem Laienauge schien die Art der Ofen auffallend, in denen geschmolzen wird. Das Feuer in diesen wird bloß durch den Luftzug ohne Blasbalg oder irgend eine Maschine der Art erhalten. Die Luft kann von unten durch den Ofen ziehen, und so facht sie immer das Feuer an....
Fünfmahl in einem Tage und einer Nacht wird gegossen. Hier hast du meine magere Beschreibung dieser berühmten Kupferbergwerke in Angelsea. Sie ist so voll Unbestimmtheit im Ausdrucke, daß es mir selbst beynah unmöglich war, im Niederschreiben fortzufahren.
O Fiwmares, euthum i Fynydd Parys er mwyn archwilio’r gweithfeydd copr. Roedd yr ymweliad â’r gweithfeydd hyn yn fwy addysgol fyth gan na welais ddim byd tebyg o’r blaen. I rywun fel fi nad oes ganddo fawr ddim gwybodaeth ffisegol na mwynegol flaenorol, nid oes lawer i’w ennill o ymweld â’r fath leoedd ond dysgu ffeithiau hanesyddol arwynebol am y pwnc. Felly, ni allwch ddisgwyl unrhyw newyddion heblaw eiddo lleygwr, nad yw’n cynnwys fawr o ddeunydd arbennig o briodol na graenus.
Yn y lle hwn, mae mwynfeydd copr (gweithfeydd mwyngloddio) go iawn. Nid ydynt yn ddwfn iawn, ond fel y dywedant yma, y maent yn broffidiol iawn.
Bydd y copr, cyn gynted ag y daw o’r ddaear (fe wyddoch fod y cerrig yn cael eu llacio drwy ffrwydro â phowdr), yn cael ei gludo i fath o ffwrnais lle caiff ei gynhesu i dymheredd uchel fel bod mwg yn dechrau codi ohono. Bydd y mwg hwn, sef sylffwr, yn casglu ym mhen uchaf y ffwrneisi. Unwaith y rhoir y sylffwr hwn mewn tân, bydd yn troi’n lwmp caled fel carreg, sef brwmstan. Ffurfir y brwmstan hwn wedyn yn rodiau a’i werthu i ffatrïoedd powdr a masnachwyr eraill o bob math.
Cludir y copr a adewir ar ôl gan y mwg ac sy’n parhau’n gymysg â’r sorod i’r ffwrneisi mwyndoddi, neu fe’i cludir ar longau i ddwylo eraill. ...
Saif tref fechan filltir i ffwrdd o’r mwynfeydd; ger y dref hon mae sawl ffwrnais mwyndoddi. Mwyndoddir y copr ynddynt a’i brosesu i’r fath raddau fel y daw yn ddefnyddiol ar gyfer gweithfeydd copr o’r fath a geir yng Nghastell Nedd ac Abertawe, y soniais wrthych amdanynt unwaith o’r blaen.
Roedd y fath o ffwrneisi a ddefnyddir ar gyfer mwyndoddi’n ymddangos yn ddiddorol i lygaid y lleygwr hwn. Cedwir eu tanau ynghyn yn llwyr drwy lif aer heb ddefnyddio meginau nag unrhyw beirianwaith tebyg. Gall yr aer ddod i mewn i’r ffwrnais o’r gwaelod a bydd felly’n bwydo’r tân yn barhaus. ...
Bydd bwrw’r metel yn digwydd bum gwaith yn ystod un diwrnod a noson. Dyma i chi fy nisgrifiad pitw o’r mwynfeydd enwog hyn ar Ynys Môn. Mae fy mynegiant wedi mynd mor niwlog fel y daeth bron yn amhosibl i mi barhau i ysgrifennu.
Il faut visiter dans l’île d’Anglesey les célèbres Parys-mines. Cette île est en tout l’opposé du pays de Galles. Presque entièrement plate, on n’y voit pas un arbre, pas même de broussailles ou de haies, rien que des champs à perte de vue. Les mines de cuivre, situées près de la côte, sont très-intéressantes. Le minerai se tire de ces cavernes, qui brillent de mille couleurs partout où la lumière du jour y pénètre. Les pierres sont ensuite taillées en petits morceaux et ramassées par tas comme le minerai d’alun, après quoi on y met le feu, et le tas brûle pendant neuf mois. La fumée est en partie utilisée et l’on en tire du soufre. C’est un singulier phénomène pour les personnes qui ne connaissent pas ces opérations, que de voir au bout de ces neuf mois, pendans lesquels tout le soufre s’est dégagé par l’effet de l’affinité que le feu met en action, le cuivre pur, qui auparavant était répandu dans toute la pierre, rassemblé dans le centre comme une noix dans sa coque. Quand le feu est éteint, le minerai se lave comme celui de l’alun, et l’eau qui en provient est rassemblée dans des mares.
La poussière que cette eau dépose, contient encore de vingt-cinq à quarante centièmes de cuivre, et l’eau qui sort après en est tellement imprégnée, qu’une clef de fer que l’on y plonge prend, au bout de quelques secondes une couleur rouge de cuivre. Le minerai est après cela encore plusieurs fois fondu et ensuite raffiné, et puis taillé en blocs carrés du poids de cent libres, qui se vendent ainsi, ou s’étendent en feuilles pour doubler les vaisseaux.
Rhaid ymweld â mwyngloddiau enwog Parys ar Ynys Môn. Y mae’r ynys ym mhob ffordd yn wrthgyferbyniad i Gymru. Mae hi bron yn gwbl wastad, nid oes un goeden i’w gweld, nid hyd yn oed prysg na gwrychoedd, dim ond caeau cyn belled ag y gall dyn weld. Mae’r mwynfeydd copr, sydd ger yr arfordir, yn ddiddorol iawn. Echdynnir y mwyn o ogofau, sy’n llewyrchu â mil o liwiau lle bynnag y daw golau dydd i mewn iddynt. Torrir y cerrig wedyn yn ddarnau mân a’u casglu’n bentyrrau fel y gwneir â mwyn alwm, yna rhoir y cyfan ar dân a bydd y pentwr yn llosgi am naw mis. Defnyddir y mwg yn rhannol gan yr echdynnir sylffwr ohono. Mae’n ffenomen ryfeddol i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r prosesau hyn, i weld, ar ddiwedd y naw mis, ar ôl rhyddhau’r holl sylffwr drwy’r effaith affinedd a achoswyd gan y tân, y copr pur, a oedd gynt wedi’i wasgaru drwy’r holl gerrig, wedi ymgasglu yn y canol megis cneuen yn ei chragen. Unwaith y bydd y tan wedi’i ddiffodd, bydd y mwyn yn cael ei olchi, fel y gwneir ag alwm, a chesglir y dŵr gwastraff mewn pyllau.
Bydd y llwch y mae’r dŵr hwnnw’n ei olchi i ffwrdd yn parhau i gynnwys rhwng pum canfed ar hugain a deugain canfed o gopr, a bydd cymaint ohono yn y dŵr a ddaw allan wedyn fel y bydd allwedd haearn sy’n cael ei throchi ynddo’n troi’n lliw copr coch ar ôl ychydig eiliadau. Wedyn, bydd y mwyn yn cael ei doddi eto sawl gwaith ac yna ei fireinio cyn cael ei dorri’n flociau sgwâr sy’n pwyso can pwys, sy’n cael eu gwerthu fel hynny, neu eu gwastatáu yn daflenni a ddefnyddir i leinio llongau.