Tref glan môr Fictoraidd ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Y Rhyl. Gyda thraeth hir, tywodlyd a lleoliad delfrydol oddi ar ffordd arfordirol yr A5 drwy Ogledd Cymru, datblygodd Y Rhyl fel tref newydd yn y 1830au a'r 1840au, i raddau helaeth o ganlyniad i'r cynnydd mewn twristiaeth ymdrochi môr. Oherwydd ei hagosrwydd at Lerpwl a Manceinion daeth yn boblogaidd yn fuan fel cyrchfan i dwristiaid o ogledd-orllewin Lloegr, tra denwyd ymwelwyr o Lundain yno gyda dyfodiad y rheilffordd yn 1848. Tyfodd y dref yn gyflym gan ddarparu'r holl gyfleusterau a ddisgwylid mewn tref glan môr, yn cynnwys pier 2,115 troedfedd o hyd, llyn artiffisial i gychod, ffair bleser a rheilffordd fechan.
Yn ôl arweinlyfr a ysgrifennwyd gan Mark Luke Louis, ymfudwr o Ffrainc, roedd gan Y Rhyl yn 1854 un o'r gorsafoedd trên mwyaf modern, y baddonau, llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen gorau, yn ogystal â gwestai hyfryd ar hyd y promenâd. Yn ogystal â chanmol y cyfleusterau gwyliau modern hyn, tynnodd Ffrancwr arall, Alphonse Esquiros, sylw at fawredd mynyddoedd Eryri yn codi yn y cefndir tu ôl i'r dref arfordirol hon.
Erbyn ail hanner y ganrif, roedd enw da Y Rhyl fel cyrchfan wyliau o safon wedi mynd ar led, a galwai llongau pleser gyda theithwyr o Lerpwl a Sir Gaerhirfryn yno'n rheolaidd. Yn yr ugeinfed ganrif denodd y dref sylw drachefn gyda'r gwasanaeth hofrenfad cyntaf i deithwyr. Mae'n amlwg i'r Rhyl fod yn boblogaidd gydag awduron Ffrengig, oherwydd fe wnaeth un arall, D'Arcis, ganmol cynllun modern y dref, ei hinsawdd iach a'r dewis helaeth o atyniadau poblogaidd oedd yno am brisiau rhesymol. Dywedodd ei bod yn gyrchfan ddelfrydol i deuluoedd ac yn baradwys i blant, gyda'r lle'n dod yn fwrlwm o fywyd bob haf. Roedd yn arbennig o hoff o'r traethau hardd a diogel, y cerddorfeydd yn chwarae ar draws y dref a'r sioeau pypedau niferus ar gyfer y plant.
Rhyl est une ville de 7264 habitants, bâtie régulièrement, aux rues larges et droites, aux maisons basses mais d’assez bonne apparence et fort bien distribuées à l’intérieur. Un hôtel de ville d’un aspect élégant, une halle, une mignonne église catholique, une belle église anglicane et plusieurs chapelles des sectes de Wesley, etc., voilà ses principaux édifices. De bons magasins et une quantité de boutiques et d’échoppes permettent de se fournir du nécessaire et même du superflu. ... Rhyl ne s’anime que pendant la saison des bains qui commence à la mi-juin et finit en octobre. La plage est l’une des plus belles que l’on puisse voir et n’offre pas le moindre danger. Aussi fourmille-t-elle d’enfants de toutes les classes de la société et, détail à noter, cette promiscuité n’a pas le moindre inconvénient, car les enfants anglais et gallois ne savent pas ce que c’est qu’n mot malsonnant. Quand on veut faire un long séjour il vaut mieux louer un appartement composé d’un salon faisant fonction de salle à manger et du nombre de chambres à coucher que l’on désire. On convient d’un prix, tant par semaine, pour le logement, le service, l’éclairage et le droit de faire cuire les aliments que l’on est libre d’acheter soi-même. Grâce à cet arrangement très pratique et très économique, à moins qu’on ne tienne à s’installer sur la Parade, on peut s’affranchir des soucis du ménage ou échapper à l’ennui de la vie d’hôtel. Les distractions ne maquent pas. ... Je ne peux faire moins que de mentionner un ventriloque qui perché sur une échelle et ayant sur ses genoux deux fantoches représentant un vieux loustic et un malin paysan, leur faisait tenir les propos les plus désopilants sans qu’un seul tressaillement de sa figure dénotât que c’était lui qui parlait.
Tref gyda 7,264 o drigolion yw’r Rhyl, wedi ei hadeiladu ar ffurf reolaidd gyda strydoedd eang, syth a thai sydd yn isel ond yn ddigon braf yr olwg ac mewn trefn eithaf da ar y tu mewn. Neuadd y dref goeth yr olwg, marchnad dan do, eglwys Gatholig bert, eglwys Anglicanaidd hardd a sawl capel ar gyfer y Wesleaid ac ati yw’r prif adeiladau. Mae sawl siop fawr dda a nifer o siopau llai a stondinau’n caniatáu i chi sicrhau cyflenwad o bethau angenrheidiol a hyd yn oed moethau. ... Dim ond yn ystod y tymor ymdrochi, sy’n dechrau ganol Mehefin ac yn gorffen ym mis Hydref, mae’r Rhyl yn deffro. Mae’r traeth ymhlith y prydferthaf y gallech ei ddymuno ac nid oes dim yn beryglus amdano. O ganlyniad, mae’n llawn o blant o bob dosbarth mewn cymdeithas, a dylid nodi nad oes dim canlyniadau negyddol i’r cymysgu rhyfeddol hwn, achos nid yw’r plant Seisnig na’r plant Cymreig yn gwybod beth yw gair sarhaus. Os ydych am aros am amser hir, y peth gorau yw rhentu swît mewn gwesty, sy’n cynnwys ystafell fyw sy’n gweithredu fel ystafell fwyta a hynny o ystafelloedd gwely sydd eu hangen arnoch. Rydych yn cytuno ar bris, hyn a hyn yr wythnos, am y llety, y gwasanaeth, y goleuo a’r hawl i goginio unrhyw fwyd yr ydych yn rhydd i’w brynu drosoch eich hun. Gyda threfniant hynod ymarferol ac economaidd felly, heblaw eich bod yn mynnu bod ar y Parêd, gallwch fod yn rhydd o bob pryder ynghylch gwaith tŷ ac anghyfleusterau bywyd mewn gwesty. Nid oes prinder gweithgareddau hamdden. ... Rhaid i mi sôn am daflwr llais a oedd yn sefyll ar ysgol gyda dau byped ar ei lin yn cynrychioli hen ŵr doniol a gwladwr cyfrwys, ac yn gwneud iddynt ddweud y pethau mwyaf digrif wrth ei gilydd heb arlliw o symudiad yn ei wyneb a fyddai’n dangos mai yntau oedd yn siarad.
Rhyl, ville de bains, située à l’entrée de la célèbre vallée de la Clwyd, qui mesure 20 milles de longueur, sur 10 milles environ de largeur, et qui se trouve bordée des deux côtés par des montagnes et des collines. Rhyl s’est beaucoup accrue depuis quelques années, grâce à la pureté de l’air que l’on y respire, aux magnifiques paysages qui l’entourent, à la mer, à la fermeté des sables et à tous les avantages que recherchent les baigneurs. On y trouve des logements garnis pour toutes les bourses, des bibliothèques ou cabinets de lecture, des salles de billard, etc. Les vallées des deux rivières Clwyd et Elewy fournissent aux paysagistes de beaux points de vue. Les pêcheurs à la ligne trouvent aussi dans ces deux cours d’eau une excellente occasion d’exercer leur adresse. Rhyl est entourée de belles villas, de manoirs, de parcs. Le regard y embrasse au loin de majestueux groupes de montagnes, au-dessus desquelles se détache la couronne de la principauté de Galles, l’incomparable sommet du Snowdon.
Y Rhyl, tref glan y môr wrth y fynedfa i’r enwog Ddyffryn Clwyd: 20 milltir o hyd, 10 milltir o led, gyda mynyddoedd a bryniau ar y ddwy ochr iddo. Mae’r Rhyl wedi tyfu llawer yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, diolch i burdeb yr aer rydych yn ei anadlu yno a’r tirweddau rhagorol o gwmpas y dref, i’r môr, i gadernid y traethau tywod ac i’r holl fanteision bydd ymdrochwyr yn eu ceisio. Mae yno lety wedi’i ddodrefnu ar gyfer pob poced, llyfrgelloedd neu ystafelloedd darllen, ystafelloedd biliards ac ati. Mae dyffrynnoedd Afon Clwyd ac Afon Elwy’n cynnig golygfeydd hardd i arlunwyr tirwedd. Bydd pysgotwyr yn darganfod yn y ddwy afon gyfle rhagorol i arfer eu crefft. Amgylchynir y Rhyl â filâu, maenordai a pharciau. Yn y pellter, gellir gweld grŵp gwych o fynyddoedd, gyda choron Tywysogaeth Cymru yn teyrnasu uwchlaw iddynt, sef copa digyffelyb yr Wyddfa.
Rhyl est une plage très fréquentée. Coupée en deux quartiers, un pré qui sépare les deux faubourgs sert de lice aux joueurs de crocket. Chaque maison, en briques rouges, a son jardin. Les rues sont plutôt des chemins très fréquentés par une colonie de baigneurs.
Mae’r Rhyl yn draeth prysur iawn. Rhennir y dref yn ddwy ardal, gyda chae sydd rhwng y ddwy faestref yn gweithredu fel maes croce. Mae gan bob tŷ, o friciau coch, ei ardd ei hun. Mae’r strydoedd yn fwy fel ffyrdd prysur iawn yn llawn o grwpiau o ymdrochwyr.