Yr Wyddfa, sy'n 1085 metr o uchder, yw mynydd uchaf Cymru. Yn ôl chwedl, claddwyd y cawr Cymreig Rhitta dan y garnedd ar y copa ar ôl i'r Brenin Arthur ei ladd. Y botanegydd Thomas Johnson oedd y cyntaf a gofnodwyd i ddringo i gopa'r Wyddfa, a hynny yn 1639, a gwelwyd nifer gynyddol o ymwelwyr yn dod i'r mynydd gyda chynnydd twristiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Lluniwyd llwybrau newydd i fyny'r mynydd ac, o'r chwe llwybr poblogaidd sydd mewn bodolaeth heddiw, yr hawsaf ond yr hiraf hefyd yw Llwybr Llanberis. Y ddringfa fwyaf ysblennydd i fyny'r mynydd yw Pedol yr Wyddfa, sy'n mynd ar hyd y Grib Goch gul a pheryglus ac yna i gopa'r Wyddfa, cyn croesi clogwyni 300m o uchder y Lliwedd. Yno y bu George Mallory yn ymarfer at ei daith anffodus i Everest yn 1924.
Yn nyddiau cynnar twristiaeth fodern roedd tywyswyr lleol yn cynnig eu gwasanaeth ac, am dâl ychwanegol, hefyd yn darparu ceffylau a mulod i gario'r lluddedig i ben eu taith. Sefydlwyd y cwt cyntaf i werthu lluniaeth ar y copa yn 1820. Er gwaetha'r tywydd anffafriol, mwynhaodd y Tywysog Pückler-Muskau botel bersonol o siampaen yno yn 1828. Yn ystod y degawd dilynol, sefydlodd dau westy cystadleuol o Lanberis eu llochesi eu hunain yno, o'r enw 'Roberts Hotel' a'r 'Dry Club'. Yn 1844, croesawodd y cyntaf Frenin Sacsoni yno, yng nghwmni ei feddyg, Carl Carus.
Tuag at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Yr Wyddfa fel y gallai twristiaid deithio i fyny'r mynydd mewn unrhyw dywydd. Oherwydd y ddringfa serth aeth y cwmni i'r Swistir a phrynu pump o drenau stêm arbennig a oedd yn gallu gwthio'r cerbydau teithwyr i fyny'r mynydd, yn hytrach na'u tynnu, a dod â hwy i lawr drachefn yn ddiogel drwy ddefnyddio eu brêcs. Bu'r siwrnai gyntaf yn 1896, ond ar y daith yn ôl i lawr o'r copa aeth y trên oddi ar y cledrau, mae'n debyg oherwydd iddo gael ei orlwytho. Wedi'r ddamwain hon, gosodwyd y system reilffordd rac a phiniwn llawer diogelach a'r system honno a ddefnyddir hyd heddiw.
Von der höchsten Kuppe, „y[r] Wyd[d]fa“ genannt, d. h. ein großer Todtenhügel, bietet sich eine unvergleichliche Aussicht nach allen Königreichen, England, Schottland und Irland, falls die Musen, welche hier Somerwohnungen besitzen sollen, den Schauenden etwas Besonders zu Liebe thun und einen klaren Tag bescheren. Der Snowdon steht ebenso wie der Brocken im deutschen Harz bei den Touristen in Verruf, daß er gerade im ersehnten Augenblicke sich eine dichte Nebelkappe über die Stirne ziehe. Aber bei klarem Wetter kann das Auge sich volltrinken in Entzücken. Norwärts dämmert Cumberland, das „Land der Seen“, und mancher Grenzhügel von Schottland; östlich reicht der Blick bis in drei englische Grafschaften; südlich ragen die zahllosen Piks von Südwales und nach Westen öffnet sich die gewaltige See, die Weltschiffstraße zwischen Amerika und Liverpool. Wenn die gütige Fee Fata Morgana nicht ihre Zauberei dabei im Spiele hat, kann jener leise graue Streifen in unbegrenzter westlicher Ferne füglich für die Ostküste von Irland gelten. Mitten in der See aber glänzt im Sonnenlicht wie ein schillerndes Juwel die Insel Man; näher zu Füßen schimmert das hainreiche Eiland Anglsey und die Meerbrücke von Menai. Zwischen Bai und Meer glitzern die Kirchen von Caernarvon, der bedeutendsten Stadt von Nordwales, sonst aber blauen in der Tiefe überall Schiefergefilde, die dem Lande seine eigenthümliche Farbe verleien. Dazwischen winken blendenhell die Spiegel vieler kleiner Seen und Lagunen in tiefen Thälern, welche den Windungen des Elwyn, Conwy und des Lledr folgen.
O’r copa uchaf, a elwir ‘yr Wyddfa’, hynny yw, twmpath claddu tal, ceir golygfa ddigymar dros holl deyrnasoedd Lloegr, yr Alban ac Iwerddon, os bydd yr awenau, y dywedir bod eu hafod yma, yn ymostwng i fod yn arbennig o garedig wrth y gwyliwr ac yn ei fendithio â diwrnod clir. Yn union fel yn achos y Brocken ym Mynyddoedd Harz yn yr Almaen, bydd twristiaid yn beio’r Wyddfa am roi ei gap trwchus o niwl ar ei dalcen ar yr union eiliad y bu disgwyl yn hir amdani. Ond mewn tywydd clir, gall y llygaid yfed hyd eu digon. Mae Cumberland, ‘gwlad y llynnoedd’ a llawer o fryniau gororau’r Alban yn pendwmpian yn y gogledd; tua’r dwyrain, mae’r olygfa’n ymestyn hyd at bedair sir yn Lloegr; gorwedd copaon De Cymru tua’r De, ac yn y Gorllewin mae’r môr eang, y llwybr llongau rhyngwladol rhwng America and Lerpwl, yn ymestyn. Os nad yw’r dylwythen deg garedig Fata Morgana wedi rhoi ei bys hudol yn y potes, yna gall y stribed llwyd yn y pellter eithaf tua’r gorllewin yn hawdd fod yn arfordir dwyreiniol Iwerddon. Ac fel gem befriog yn yr haul, gorwedd Ynys Manaw yng nghanol y môr; mae ynys goediog Môn a Phont Grog Menai yn tywynnu’n agosach at draed y gwyliwr. Mae eglwysi Caernarfon, tref bwysicaf Gogledd Cymru, yn pelydru rhwng y bae a’r môr; ond fel arall, mae’r teyrnasoedd llechi, sy’n rhoi i’r tir ei liw anarferol, yn gloywi’n las yn y dyfnderau. Rhyngddynt, mae drychau disglair llynnoedd a lagwnau diddiwedd yn amneidio o gymoedd dyfnion sy’n dilyn troeon afonydd Elwy, Conwy a Lledr.
Aussichten entschädigten mich nicht, denn von Wolken ganz um schleiert, konnte ich kaum 20 Schritt weit vor mir sehen, und in diesem geheimnißvollen clair obscur erreichte ich auch den ersehnten Gipfel, zu dem man über einen schmalen Felsenkamm gelangt. Ein Steinhaufen, in dessen Mitte eine hölzerne Säule steht, ist als Wahrzeichen aufgerichtet. Ich glaubte hier der Erscheinung meines Doppelgängers zu begegnen, als ein junger Mann aus dem Nebel hervortrat, der mir selbst völlig glich, NB. wie ich aussah, als ich vor 16 Jahren in den Schweizer-Alpen umher irrte. ... Er hatte von der andern Seite den Berg erstiegen, und frug mich nur, ohne sich aufzuhalten, angelegentlich, wie weit der Gasthof, und wie der Weg beschaffen sey? Sobald ich ihm meine Nachrichten mitgetheilt, eilte er singend und trällernd die Felsen hinab, und entschwand bald meinen Blicken. Ich kritzelte unterdeß meinen Namen, neben tausend andern, auf einen großen Stein, und ergriff dann das Kuhhorn, welches mir der Gastwirth als Trinkgeschirr mitgegeben hatte, und befahl meinem Führer, den Stöpsel der Champagnerflasche zu lösen. Sie mußte ungewöhnlich viel fixe Luft enthalten, denn der Pfropf flog höher, als die Säule unter der wir standen, und Du kannst daher, ohne Münchhausen etwas abzuborgen, mit gutem Gewissen versichern, daß, als ich am 17. Juli [1828] Deine Gesundheit trank, der Champagnerstöpsel gegen 4000 Fuß hoch über die Meeresfläche geflogen sey.
Ni wnaed iawn am fy nioddefiadau gan yr olygfa oherwydd, dan amdo’r cymylau, prin y gallwn weld ugain cam o’m blaen. Drwy’r ‘clair obscur’ dirgelaidd hwnnw, cyrhaeddais y copa yr anelwn ato, y mae’r llwybr iddo dros fur o greigiau cul ac anwastad. Mae pentwr o gerrig, gyda cholofn o bren yn ei ganol, yn nodi’r pwynt uchaf.
Meddyliais i mi gyfarfod fy ysbryd fy hun, wrth i ddyn ifanc ymddangos o’r niwl a edrychai’n union fel y fi, hynny yw, y fi fel yr oeddwn pan grwydrais dros Alpau’r Swistir un mlynedd ar bymtheg yn ôl. ... Roedd wedi dringo’r mynydd o’r ochr arall a, heb aros, fe’m holodd yn eiddgar pa mor bell oedd hi i’r gwesty a sut fath o ffordd oedd hi. Cyn gynted ag yr oeddwn wedi rhoi iddo’r wybodaeth a ddymunai, llamodd i ffwrdd dros y creigiau, gan ganu’n ddibryder a diflannu’n fuan o’m golwg. Crafais fy enw ger miloedd o rai eraill ar dalp o graig a chymerais fy nghorn yfed, yr oedd fy ngwestywr wedi ei fenthyg i mi, a gorchmynnais y tywysydd i dynnu corcyn fy mhotel o siampaen. Rhaid bod y botel yn cynnwys mwy nag arfer o aer caeth, achos hedfanodd y corcyn yn uwch na phen uchaf y piler yr oeddem yn sefyll gerllaw iddo; a gallwch felly, heb ddynwared Münchausen, gyhoeddi, pan yfais lwnc-destun i chi ar Orffennaf 17eg, 1828, bod corcyn y botel o siampaen wedi hedfan bedair mil o droedfeddi uwchlaw lefel y môr.
Snowdon a deux sommets. Le plus haut nommé Y[r] Wyddfa, qui signifie se voit de partout, consiste en une étroite plateforme sur laquelle on a bâti un petit hôtel et élevé une pyramide de bûches surmontée d’un mât. Par le beau temps on peut voir de là-haut une grande partie du pays de Galles, les montagnes du Cumberland et de l’Ecosse, l’île de Man et l’Irlande, mais je doute qu’il y ait beaucoup de gens qui puissent se vanter d’avoir contemplé un pareil panorama, attendu que les conditions météorologiques de cette région ne sont pas aussi favorables que celles de la côte. Y Wyddfa est à 1020m environ au-dessus du niveau de la mer. C’est donc une sommité bien modeste, mais si j’ose donner un conseil, c’est de ne pas en parler à la légère devant un Gallois, car cela le fâcherait sans lui ôter de la tête que Y[r] Wyddfa est la reine des cimes.
Le mauvais temps m’empêcha d’en atteindre la cime mais je ne voulus pas néanmoins quitter le pays sans en visiter les vallées principales. Je partis donc une après-midi avec l’intention d’aller coucher à Capel-Curig de l’autre côté du pas de Llanberis qui fait communiquer la vallée des lacs de Llanberis avec celle des lacs de Mymbyr. C’est un col dont l’ascpect sauvage impressionne, même de loin, et qui devient de plus en plus imposant et sévère à mesure qu’on s’avance dans ses gorges semées d’éboulis et menacées par les colonnes mal équilibrées du Glyder-Fawr et les rochers roulants du Snowdon. Une tempête me surprit en route et je fus trop heureux de pouvoir me réfugier dans une chaumière. La nuit vint et je cédai à l’insistance de mes hôtes, un honnête paysan et sa femme, qui voulurent me caser dans leur habitation. Le lendemain matin il me fut impossible de leur faire accepter quoi que ce fût et je réussis à grand’peine à placer un shilling, à titre de porte-bonheur, sur les genoux du bébé.
Mae gan yr Wyddfa ddau gopa. Yr uchaf sy’n dwyn yr enw Yr Wyddfa, sy’n golygu ‘yn weledig o bobman’ ac mae ar ffurf llwyfan gul ar yr hwn y mae gwesty bach wedi’i adeiladu, ynghyd â phyramid o logiau gyda mast. Os bydd y tywydd yn dda gellir gweld llawer o Gymru, ynghyd â mynyddoedd Cumberland a’r Alban, Ynys Manaw ac Iwerddon, ond rwyf yn amau a oes llawer o bobl a all ymffrostio iddynt weld y fath banorama, gan nad yw’r tywydd yn yr ardal hon mor ffafriol ag ar yr arfordir. Cwyd yr Wyddfa oddeutu 1020m uwchlaw lefel y môr. Mae felly’n gopa cymhedrol iawn, ond os caniateir i mi gynnig gair o gyngor, hynny fyddai i beidio â siarad yn ysgafn amdano o flaen Cymro gan na fyddai ond yn ei ddigio, a hynny heb gael gwared â’r syniad o’i ben mai brenhines y copaon yw’r Wyddfa. Cefais fy rhwystro gan dywydd drwg rhag cyrraedd y copa, ond eto, ni ddymunwn adael yr ardal heb ymweld â’r prif ddyffrynnoedd. Felly cychwynnais un prynhawn gan fwriadu aros y nos yng Nghapel Curig ar ochr arall Bwlch Llanberis, sy’n cysylltu dyffryn llynnoedd Llanberis â dyffryn Llynnoedd Mymbyr.
Mae’n fwlch y mae’r olwg wyllt arno’n drawiadol, hyd yn oed o bell, ac mae’n mynd yn fwy a mwy mawreddog a llym wrth i chi deithio i mewn i’w geunentydd lle mae creigiau cwympiedig wedi’u gwasgaru ac sydd dan fygythiad colofnau chwil y Glyder Fawr a chreigiau tonnog yr Wyddfa. Cefais fy nal gan storm annisgwyl ar fy ffordd ac nid oeddwn ond yn rhy falch i allu ymochel mewn bwthyn. Daeth y nos a rhoddais y ffidil yn y to, fel y mynnai fy ngwesteiwyr, gwerinwr gonest a’i wraig, a oedd yn awyddus i gynnig llety i mi yn eu cartref. Fore drannoeth, fe’i cefais yn amhosibl eu cael i dderbyn unrhyw beth o gwbl, a llwyddais, gydag anhawster mawr, i osod swllt am lwc ar lin y baban.
De l’hôtel nous montâmes par la route ... jusqu’au haut de Llanberis Pass ou Gorphwysfa (lieu de repos) 1200; nous prîmes là un sentier à gauche; mais nous ne le fîmes pas longtemps: plus hardis que le commun des martyrs nous nous mîmes à gravir un promontoire de Crib-Goch dont nous longeâmes le flanc à la hauteur d’environ 1500 pieds. 5 ou 6 cents pieds plus bas était le lac Llyn Llydaw reflétant comme une glace la voûte céleste alors du plus beau bleu, à 1500 pieds au dessus de nos têtes le sommet de Crib Goch formé de couches de rochers aux couleurs variées, avait l’aspect d’une vaste forteresse démantelée et dont les murailles, les pans les tours semblent surplomber et vous menacer de leurs ruines. Il s’en écroule de temps en temps depuis des siècles; les parties les plus dures roulent en bondissant jusqu’au lac, d’autres se brisent dans la chute, se pulvérisent et couvrent le penchant plus ou moins rapide et incliné de la montagne. C’est sur ces débris mouvans que nous nous mîmes à gravir à des angles variant de 19 à 30 dégrés, parfois perpendiculairement dans les coupures de rochers isolés. Bientôt le cœur se met à battre plus fort. On est déjà beaucoup plus près de Snowdon, sa coupole se dresse majestueusement sur sa base qui semble reposer perpendiculairement sur les bords du petit lac Glaslyn. En face est la montagne Lliwedd, de près de 3000 pieds, et qui n’est cependant qu’un des éperons de Snowdon: cette Reine de tout le Pays de Galle! Crib Goch, plus haut encore, en est une autre: les 3 réunies ont la forme d’un fer-à-cheval: Sonwdon est à la pointe, et ses deux puissants piliers au bout des deux branches. Leurs parois ressemblenet à ceux d’un cratère inactif depuis bien des siècles, dans le vaste bassin duquel, cependant, Snowdon et ses branches auraient été formées par différentes eruptions vomissant des masses de matières différentes à travers des couches déjà établies qu’elles soulevaient, qu’elles brisaient, qu’elles métamorphosaient et qui gisent maintenant dans la plus grande confusion; ce qui fait, sans doute que toutes lignes sont brisées, que la coupe des masses rocheuses est si angulaire et change si soudainement de direction.
O’r gwesty dringasom, ar hyd y ffordd, i ben uchaf Bwlch Llanberis neu i Orphwysfa, 1200 [troedfedd]; oddi yno, dilynasom lwybr ar y chwaith, ond nid am hir: gan fod yn fwy beiddgar na’r merthyr arferol, aethom ymlaen i ddringo pentir oddi ar y Grib Goch a theithio ar hyd y llethr ar uchder o oddeutu 1,500 troedfedd. Pump neu chwe chan troedfedd islaw roedd Llyn Llydaw megis drych yn adlewyrchu’r wybren uwchben a oedd o lasliw hynod hardd ar y pryd. 1,500 troedfedd uwch ein pennau oedd copa’r Grib Goch, a ffurfiwyd o haenau o graig o amrywiol liwiau, gan ymddangos fel amddiffynfa anferth, adfeiliedig, yr oedd ei muriau ac ochrau ei thyrau fel petaent yn bargodi drosom ac yn ein bygwth â’u hadfeilion. Mae darnau ohonynt wedi bod yn cwympo o bryd i’w gilydd drwy’r canrifoedd; bydd y darnau caletaf yn rholio ac yn sboncio cyn belled â’r llyn, tra bydd eraill yn torri’n ddarnau wrth gwympo, gan chwilfriwio i orchuddio’r rhannau serth a llai serth o’r llethr. Ar y malurion ansad hynny y dechreuasom ddringo ar onglau rhwng 10 a 30 gradd, neu ar adegau yn syth i fyny’r hafnau mewn creigiau unigol. Yn fuan, dechreua’r galon gyflymu. Rydym eisoes yn agosach o lawer at yr Wyddfa, sydd â’i gromen yn sefyll yn drawiadol ar sylfaen sy’n ymddangos yn berpendicwlar i lannau llyn bach Glaslyn. Gyferbyn mae mynydd Lliwedd, sydd tua 3,000 troedfedd o uchder, a dyna ond un o esgeiriau’r Wyddfa: hithau, Frenhines Cymru gyfan! Mae Crib Goch, yn uwch fyth, yn esgair arall: mae’r tair esgair gyda’i gilydd yn ffurfio pedol; yr Wyddfa yw’r copa gyda’i dwy golofn gadarn ar ben draw’r ddwy gainc. Mae eu hwynebau’n debyg i grater, a fu’n dawel ers canrifoedd, ond y byddai’r Wyddfa a’i hesgeiriau wedi’u ffurfio o’i grochan anferth drwy wahanol ffrwydradau folcanig yn chwydu llwythi o wahanol sylweddau drwy haenau a ffurfiwyd eisoes. Byddai’r ffrwydradau hynny’n codi ac yn torri’r haenau hynny, yn eu trawsnewid ac yn eu gadael erbyn heddiw mewn dryswch llwyr; gyda’r canlyniad, yn ddi-os, bod pob llinell wedi’i thorri a bod rhediad yr haenau o greigiau mor onglog ac yn newid cyfeiriad mor ddisymwth.