BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Beddgelert

Beddgelert - Trosolwg

Roedd Beddgelert yn safle Priordy Awgwstinaidd a sefydlwyd yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg. Yn ôl chwedl, mae'r pentref wedi ei enwi ar ôl Gelert, ci hela a oedd yn eiddo i Lywelyn ap Iorwerth (m.1240). Roedd wedi achub mab bach y tywysog rhag bleiddiaid, ond cyn sylweddoli fod ei fab yn dal yn fyw, fe wnaeth Llywelyn ladd y ci gan gredu mai ef oedd wedi ymosod ar y babi. Yn llawn edifeirwch ar ôl canfod ei gamgymeriad, fe wnaeth y tywysog ei gladdu ger y pentref. Ond, mewn gwirionedd, yn 1802 y codwyd y garreg goffa sy'n nodi 'bedd Gelert', a hynny gan David Prichard, rheolwr cyntaf y Royal Goat Hotel, fel cynllwyn marchnata i ddenu ymwelwyr sentimental i'w westy. Mae'n amlwg iddo weithio gan fod y chwedl, ei enw a'r gwesty yn cael lle amlwg yn nisgrifiadau llawer o deithwyr o'u hymweliadau â Beddgelert drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch