BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Glyn Garth a'r Teulu Schwabe

Glyn Garth a'r Teulu Schwabe - Trosolwg

Mae plasty Glyn Garth yn un ymysg nifer a ddymchwelwyd ar draws Cymru ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Tŷ bychan ar ochr Môn i'r Fenai oedd Glyn Garth yn wreiddiol, ond yn niwedd y 1830au a dechrau'r 1840au adeiladwyd plasty castellog sylweddol ar y safle ar ôl iddo gael ei brynu gan Salis Schwabe, ymfudwr o'r Almaen a pherchen ffatri ym Manceinion, a'i wraig Julia, a oedd yn enwog fel sefydlydd ysgolion a dyngarwr.

Iddewon wedi troi at Undodaeth oedd y Schwabes, ac roedd ganddynt gysylltiadau ag awduron amlwg, diwygwyr cymdeithasol, cyfansoddwyr, gwleidyddion ac addysgwyr eu cyfnod. Er mai ym Manceinion roeddent yn byw gan mwyaf, lle roedd Salis yn rheoli ei gwmni argraffu cotwm, deuai'r Schwabes yn aml i'w cartref Cymreig, Glyn Garth. Yno byddent yn lletya eu gwesteion o fri rhyngwladol, megis yr awdures Elizabeth Gaskell, y diwygiwr carcharau Thomas Wright, neu William Amherst, cyn Lywodraethwr Cyffredinol India.

Yn ogystal â meithrin cysylltiadau cryf â diwygwyr ac artisitiaid o Brydain, roedd y Schwabes hefyd yn parhau i gadw mewn cysylltiad â'u gwlad enedigol. Roeddent yn cadw eu drysau'n agored i ymwelwyr, yn arbennig i ffoaduriaid gwleidyddol o'r gwledydd Almaenig. Gwahoddwyd y siosalydd a'r addysgwr Malwida von Meysenburg i Glyn Garth i rannu ei syniadau am y mudiad kindergarten ac am gyfnod yn ystod ei alltudiaeth o'r Almaen, derbyniodd Richard Wagner gymorth ariannol oddi wrth Julia. Arhosodd y chwyldroadwr Karl Blind a'i deulu hefyd yn Glyn Garth un hydref ar ôl iddynt gael eu halltudio o'r Almaen. Ynghyd ag un o'r meibion Schwabe, sef George Salis-Schwabe a ddaeth yn aelod seneddol yn ddiweddarach, fe wnaeth Blind ddychryn yn ysgolhaig Almaenig Max Muller, a oedd hefyd yn aros yno, drwy fynd i nofio i ddyfroedd rhewllyd y Fenai.

Yn dilyn marwolaeth Julia, prynwyd plasty Glyn Garth gan esgobaeth Bangor ac fe'i defnyddiwyd fel plas newydd i Esgob Bangor nes iddo gael ei ddymchwel yn y 1960au. Heddiw Llys Gyn Garth, sef bloc o fflatiau, sy'n sefyll ar safle cyn gartref y Schwabes yng Nghymru.

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch