Adeiladwyd y maenordy gwreiddiol ar y safle hwn yn nechrau'r bymthegfed ganrif. Rhoddwyd trwydded frenhinol i Syr Gwilym Gruffydd yn 1438 yn rhoi caniatâd iddo roi crenelau ar y tŷ ac ymestyn yr adeilad drwy ychwanegu tŵr caerog ato. Roedd hwn yn adeilad sylweddol a ddisgrifiwyd mewn cerdd o'r bymthegfed ganrif gan Rhys Goch Eryri. Fe'i cofnodwyd hefyd mewn darluniau a wnaed gan y pensaer Samuel Wyatt cyn iddo gael ei addasu'n sylweddol iawn gyda'i gynlluniau ef ar gyfer plasty Gothig i deulu'r Penrhyn yn 1782. Mae'n ymddangos fod y cynllun hwn wedi cadw cromgell yr islawr, y tŵr gyda'i risiau troellog a'r neuadd fawr o'r cynllun canoloesol, yn ogystal ag adlewyrchu arddull ganoloesol yr adeilad gwreiddiol.
Cafodd yr adeilad presennol ei greu gan y pensaer Thomas Hopper rhwng 1822 a 1837 i George Hay-Dawkins Pennant, a oedd wedi etifeddu ystâd y Penrhyn ar ôl ei gefnder, Richard Pennant. Roedd Pennant ei hun wedi priodi i deulu'r Penrhyn ac wedi gwneud ei ffortiwn wedi hynny drwy'r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a chaethwasiaeth yn Jamaica.
Yn wahanol i benseiri eraill cestyll ffug y cyfnod Rhamantaidd a Fictoraidd cynnar, penderfynodd Hopper beidio â defnyddio'r arddull Gothig ffasiynol ond, yn hytrach, fynd am arddull neo-Normanaidd. Aeth ei weledigaeth o arddull Normanaidd tu hwnt i bensaerniaeth bur, gan ymestyn i'r gwaith plaster caboledig ac addurniedig a ddefnyddiwyd yn y llyfrgell, y neuadd fawr a'r grisiau. Roedd y dodrefn hefyd yn adlewyrchu'r arddull hon. Gwaetha'r modd, dim ond am dair blynedd arall y bu George Hay-Dawkins Pennant fyw ar ôl i'r gwaith adeiladu o bymtheg mlynedd yn y castell ddod i ben.
Yn 1859, arhosodd y Frenhines Fictoria a'r Tywysog Albert yn y castell yn ystod un o'u hymweliadau prin â Chymru. Fodd bynnag, gwrthododd y frenhines gysgu yn y gwely llechen mawr yr oedd teulu'r Penrhyn wedi ei gomisiynu'n arbennig ar gyfer yr achlysur, gan ei fod yn ei hatgoffa o fedd. Tua'r amser yma hefyd y dechreuodd yr ystâd agor ei gatiau yn rheolaidd i grwpiau o dwristiaid, a dalai am gael eu harwain drwy'r ystafelloedd ysblennydd a'r gerddi helaeth gan yr howsgiper.
Aelod olaf teulu'r Penrhyn i fyw yn y castell oedd Hugh Napier Douglas-Pennant, a fu farw yn 1949. Aeth y castell a'r gerddi'n eiddo i'r Trysorlys yn 1951 a heddiw maent dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal â'r gosodiadau mewnol a dodrefn sydd wedi eu diogelu yno, mae'n gartref hefyd i un o gasgliadau celf gorau Cymru.
Und dieser ganz reiche Boden, diese unermeßlichen Kupfer-, Schiefer- und Marmorminen gehören einem Manne, der es verdient, Besitzer eines der schönsten Punkte der Welt zu seyn. Dieser Mann heißt Pentland, ein schlichter Privatmann, der über eine Rente von 150.000 Pfd. verfügt. Vor vierzehn Jahren kaufte er von der nun ausgestorbenen Familie gleichen Namens das Pennrhyncastle, eine Ruine aus dem sechsten Jahrhundert, welche auf einer schönen Anhöhe über Bangor liegt. Auf dem Grund dieser berühmten Ruine führte er nun binnen dieser Zeit ein Schloß auf, das dem frühern hier gestandenen möglichst treu nachgebildet ist, und das in seiner äußern und innern Erscheinung vollkommen den Geist des ältesten Ritterthums athmet.
Es besteht aus drei Abtheilungen, die mit Mauern und Thürmen umgeben sind, und erhebt sich hoch und staunenerregend in edler Einfachheit über Meer und Felsen. Es ist ganz aus dem schönen rohen schwarzen Marmor gebaut, der an der Mennaibrücke gebrochen wird, und dieß dunkle Colorit gibt dem weit über den Hügel sich ausbreitenden herrlichen hohen Schlosse mit seinen schönen Thürmen und Zinnen ein ungemein romantisches Aussehen. Die Nachahmung der alten Bauart ist so genau, daß man es auf den ersten Blick für ein altes Gebäude ansehen muß. Allein diese Täuschung wird im Innern bis ins Unglaubliche getrieben, und die Millionen, die hier verschwendet wurden, sind von dem feinsten Geschmack, der sichersten Kenntniß der gothischen Bauart und dem geläutertsten Verstande geleitet worden.
Alle Meubles sind im mittelalterlichen Geschmack, aber möglichst veredelt. Die Wände sind durchgehends mit Damasttapeten belegt, die Meubelüberzüge von Atlas und Sammet, und gleich den dicken Fußteppichen, welche die schönen Mosaikparkets dieser Riesenhallen bedecken, mit antiken Zeichnungen durchwebt. Alle Kamine sind von edlen Marmoren, die Spiegel von kolossalster Größe, die Decken Stucco, gehauener Stein oder Holzschnitt – alles treffliche Arbeit. Die enormen Bettstellen sind alle aus Eichenholz oder Schiefer. Die Meubles sind durchgehends von Eben- oder Eichenholz, und mit außerordentlicher Eleganz und Mannichfaltigkeit gearbeitet. Die Candelaber, welche 12 Schuh hoch sind, bestehen aus reich vergoldeter Bronze. In den Verzierungen aller vereinigt sich der höchste Geschmack mit nabobischer Verschwendung. Das schöne Stiegenhaus ist gleich dem ganzen Gebäude in edlem altsächsischen Style gebaut, und empfängt seine Beleuchtung durch eine Kuppel von mattem Glase. Die antiken Bronzelampen hängen in langen Ketten. Die unendliche Säulenarchitektur scheint doch nicht überladen, da sie im Geiste des Ganzen angebracht ist. Die Bibliothek ist ganz von geschnitztem polirtem Eichenholz, und besteht aus einer großen Halle, die in der Mitte durch freie Bögen getrennt ist. Die Aufstellung der Bücher ist hinter feinen filigranartigen Bronzegittern. Die Krone des Ganzen ist die große Entré im Empfangssaale, die auf hundert schlanken Säulen ein erstaunlich hoch und kühn gesprengtes Dach trägt, und ganz mit weißem Marmor belegt ist. Die Verzierungen sind auch hier vom edelsten Geschmack geleitet, und von Meisterhand ausgeführt. Raum für hundert Gäste und fünfzig Pferde drückt diesem Feenschlosse den Stempel der Großartigkeit und Gastfreundschaft auf, und der König von England wäre glücklich, wenn er einen ähnlichen Palast besäße. Ich habe eine solche durchgeführte Nachahmung der mittelalterlichen Bau- und Lebenssitte bis jetzt für unmöglich gehalten, besonders, wenn sie sich mit dem Comfort des üppigsten Lebens unserer Tage paaren soll. Die Capelle ist in gebührender Einfachheit ganz aus Eichenholz gezimmert, nur die Sitze der Familie sind von gepreßtem Leder mit Gold bedeckt. Marquetterie-Arbeiten, indische Tapeten und chinesische eingelegte Basreliefkästen von Speckstein und Perlenmutter finden sich in mehreren Cabinetten.
Das Schloß selbst ist von dichten hohen Bäumen, die sich aus der Tiefe an ihm emporranken, umgeben, und der Park, der sich bis ans Meer hinab und über die Höhen hinauf erstreckt, verspricht einer der schönsten in England zu werden, wie überhaupt eine ähnliche Schöpfung kaum in einem andern Lande der Welt zu finden seyn dürfte.
Ac mae’r pridd hynod gyfoethog hwn a’r mwynfeydd copr, llechi a marmor diddiwedd hyn yn perthyn i ddyn sy’n berchennog haeddiannol ar un o’r mannau prydferthaf ar y ddaear. Mae’r dyn hwnnw, gŵr busnes syml o’r enw Pentland, yn ennill £150,000 y flwyddyn. Bedair blynedd ar ddeg yn ôl, prynodd Gastell Penrhyn, adfail o’r chweched ganrif a saif ar fryn hardd uwchlaw Bangor, ac a enwir ar ôl teulu o’r un enw nad yw bellach yn bod. Ar sylfeini’r adfail enwog hwnnw, mae wedi codi yn y blynyddoedd ers hynny gastell sydd o fwriad yn hynod debyg i’r un blaenorol ac y mae ei gynllun mewnol ac allanol yn adlewyrchu’r ysbryd marchogaidd hynafol.
Gyda thair rhan wedi’u hamgylchynu â muriau a thyrau, mae’r castell gwych, uchel, yn tra-arglwyddiaethu mewn symlrwydd urddasol uwchlaw’r creigiau a’r môr. Mae’r cyfan wedi ei wneud o farmor du garw a gloddiwyd gerllaw Pont Grog Menai; ac mae’r lliw tywyll hwnnw’n rhoi golwg gwir ramantus i’r castell tal gogoneddus, wrth iddo ymestyn ar draws y bryn gyda’i dyrau a’i fylchfuriau gosgeiddig. Dynwaredwyd yr hen gynllun mor gysáct fel ar yr olwg gyntaf mae’n edrych fel adeilad gwirioneddol hynafol. Perffeithir y rhith i raddau anhygoel y tu mewn, ac mae’r miliynau a afradwyd yma’n amlygu’r chwaeth fireiniaf, yr arbenigedd sicraf mewn pensaernïaeth Gothig a’r meddwl mwyaf manwl. Mae’r holl ddodrefn mewn dull canoloesol ond chwaethus. Gorchuddir yr holl furiau â phapur wal damasg; mae lluniau hynafol wedi eu gwau i mewn i’r gorchuddion dodrefn satîn a melfed ac i’r carpedi moethus sy’n gorchuddio lloriau mosaig hardd y neuaddau enfawr hyn. Mae’r holl leoedd tân o farmor gwerthfawr, y drychau’n enfawr, y nenfydau wedi eu gorchuddio â stwco, carreg neu bren cerfiedig – mae popeth yn waith ardderchog. Gwnaed y gwelyau enfawr oll o dderw neu lechfaen.
Eboni neu dderw yw’r holl ddodrefn ac maent wedi eu cerfio mewn coethder ac amrywiaeth ryfeddol. Mae’r sêr canhwyllau deuddeg troedfedd o daldra wedi eu gwneud o efydd wedi’i euro. Mae’r holl addurniadau’n amlygu chwaeth o’r mwyaf soffistigedig wedi’i briodi ac afradlonedd mwyaf nabobaidd. Fel gweddill yr adeilad, mae’r staer wedi’i llunio ar y patrwm Hen-Sacsonaidd ac wedi’i goleuo drwy giwpola o wydr barugog. Mae’r lampau efydd hynafol yn crogi o’r nenfwd ar gadwyni hir. Nid yw’r pileri diddiwedd yn ymddangos yn ormodol gan fod y cynllun yn gwbl unol ag ysbryd yr holl adeilad. Mae’r llyfrgell wedi’i chreu yn llwyr o dderw wedi’i sgleinio ac mae ar ffurf neuadd fawr wedi’i rhannu ar ei chanol gan fwâu rhydd; cedwir y llyfrau y tu ôl i ddelltwaith efydd tebyg i ffiligri. Trysor mwyaf y cyfan yw neuadd dderbyn wych sydd wedi’i gwisgo’n gyfan gwbl mewn marmor gwyn ac sy’n cynnal ar gant o bileri cul nenfwd crog hynod uchel a mentrus. Yma hefyd, mae’r addurniadau yn y chwaeth fwyaf pendefig ac fe’u lluniwyd gan wir grefftwyr. Mae stamp mawredd a chroeso ar y castell hudol hwn gan fod ynddo le ar gyfer cant o westeion a hanner cant o geffylau a byddai Brenin Lloegr yn ystyried ei hun yn ffodus pe byddai’n berchen ar balas cyffelyb. Hyd yma, roeddwn wedi tybio y byddai dynwared dyluniad a ffordd o fyw yr Oesoedd Canol mor berffaith yn amhosibl, yn enwedig pan ddisgwylir i hynny gydweddu ag amwynderau’r bywyd mwyaf moethus yn ein dyddiau ni. Gyda symlrwydd priodol, pren derw a ddefnyddir yn y capel a dim ond y seddi ar gyfer y teulu sydd wedi eu gorchuddio â lledr gwasgedig ac aur. Gosodwyd argaenwaith, papurau wal Indiaidd a chistiau basgerfiad brithaddurniedig bach o Tsieina mewn sebonfaen a chregynnen mewn amryw gypyrddau.
Amgylchynir y castell ei hun gan goed trwchus, tal, sy’n nadreddu tuag ato o’r môr. Gan ymestyn o’r môr tuag at y bryniau, mae’r parc yn addo bod yn un o’r goreuon yn Lloegr, a bydd ymron yn amhosibl canfod creadigaeth gyffelyb mewn unrhyw wlad arall yn y byd.
Dieses merkwürdige Gebäude ist von einem in jeder Hinsicht steinreichen Manne aufgeführt; denn seine, eine Stunde weiter im Gebürge liegenden Steinbrüche, bringen ihm jährlich 40.000 L. St. Er hat an einer der vortheilhaftesten Stellen, am Ufer des Meeres, einen weitläuftigen Park angelegt, und die sonderbare, aber meisterhaft ausgeführte, Idee gehabt, alle Gebäude darin in dem altsächsischen Style zu erbauen. Man schreibt diese Architektur fälschlich in England den Angelsachsen zu, da sie doch von den sächsischen deutschen Kaisern herrührt, und gewiß keines dieser vielfachen Monumente älter ist. Schon die den Park umgebende, wohl eine deutsche Meile fortlaufende hohe Mauer, erhält dadurch ein seltsames Ansehen, daß in ihrer obern Schicht 3 bis 4 Fuß hohe, aufrecht stehende, unegale, spitzige Schieferstücke eingemauert sind, eine zugleich sehr zweckmäßige Werrichtung. Bei jedem Eingang droht ein thurmartiges Fort mit Fallgittern u. s. w. dem Eindringenden, (kein übles Symbol für die Illiberalität der modernen Engländer, die ihre Garten und Besitzthümer strenger, als wir unsere Wohnstuben, verschließen) dann muß der Besucher noch eine Zugbrücke passiren, ehe er den dunklen Thorweg der imponirenden Burg betritt. Der schwarze, nur roh bearbeitete, Marmor von der Insel Anglesea, aus dem die großen Massen bestehen, harmonirt wunderbar mit dem majestätischen Charakter der Gegend. Bis in die kleinsten Details, selbst die Stuben der Bedienten, und noch geringere Plätze nicht ausgenommen, ist mit genauer Sorgfalt alles reiner old Saxon style. Im Eß-saal fand ich eine Nachahmung des Dir früher beschriebenen Schlosses Wilhelms des Eroberers zu Rochester. Was damals nur ein großer Monarch ausführen konnte, realisirt jetzt als Spielwerk, nur noch größer, schöner und kostbarer, ein simpler Landgentleman, dessen Vater vielleicht mit Käsehandel anfing. So ändern sich die Zeiten! Der Grundplan des Gebäudes, den mir der gefällige Architekt vorlegte, gab Gelegenheit zu einigen häuslichen Informationen, die ich Dir hier mittheile, weil fast alle englische größere Landhäuser so eingerichtet find, und sie, wie so vieles, die Zweckmäßigkeit englischer Gebäude darthun. Die Dienerschaft hält sich nie im Vorzimmer, hier die Halle genannt, auf, welche immer wie die Ouverture bei einer Oper, den Charakter des Ganzen anzudeuten sucht. Sie ist gewöhnlich mit Gemälden oder Statuen geschmückt, und dient, wie die elegante Treppe und alle übrigen Zimmer, nur zum beliebigen Aufenthalte der Familie und Gäste, welche sich lieber manchmal selbst bedienen, als immer einen solchen dienenden Geist hinter ihren Fußstapfen wissen wollen. Die Bedienten sind daher alle in einer entfernteren großen Stube (gewöhnlich im rez de chaussée) versammelt, wo sie auch zusammen, ohne Ausnahme, männliche und weibliche, zu gleicher Zeit essen, und wo alle Klingeln aus dem Hause ebenfalls aboutiren. Diese hängen in einer Reihe nummerirt an der Wand, so daß man sogleich sehen kann, von woher geklingelt wird; an jeder ist noch eine Art Pendulum angebracht, der sich 10 Minuten lang, nachdem die Klingel schweigt, noch fortbewegt, um den Saumseligen an seine Pflicht zu erinnern! Das weibliche Personal hat gleichfalls ein großes Versammlungszimmer, worin es, wenn nichts anderes vorkömmt, näht, strickt und spinnt. Daneben befindet sich ein Behältniß zum reinigen der Glaswaaren und des Porzellains, welches den Mädchen obliegt. Jede von diesen, so wie die männlichen Diener, haben im obersten Stock ihre besondere Schlafzelle. Nur die Ausgeberin (housekeeper) und der Haushofmeister (butler) bewohnen unten ein eignes Quartier. Unmittelbar an das der Ausgeberin anstoßend ist die Kaffeeküche und die Vorrathskammer für Alles, was zum Frühstück nöthig ist, welche, in England wichtige, Mahlzeit speciell zu ihrem Departement gehört. Auf der andern Seite ist ihr Waschetablissement, mit einem kleinen Hofe verbunden; es besteht aus 3 Piecen, die erste zum Waschen, die zweite zum Plätten, die dritte bedeutend hohe, welche mit Dampf geheizt wird, zum Trocknen bei schlechtem Wetter. Neben des Haushofmeisters Logis befindet sich seine pantry, ein geräumiges feuerfestes Zimmer mit rund umher laufenden Schränken, wo das Silber aufbewahrt wird, das er auch hier putzt, so wie die zur Tafel nöthigen Glas- und Porzellainwaaren, die ihm, sobald sie von den Mädchen rein gemacht sind, welches alles sehr pünktlich geschieht, sogleich wieder abgeliefert werden müssen. Aus der pantry führt eine verschlossene Treppe in die Bier- und Weinkeller, welche der butler ebenfalls unter sich hat.
Codwyd yr adeilad hwn gan berchennog y chwareli llechi, sydd tua thair milltir i ffwrdd, ac sydd yn ennill iddo incwm o 40,000l y flwyddyn. Mae wedi sefydlu parc ar safle o’r hyfrytaf ar lan y môr; ac wedi adeiladu pob adeilad o fewn ei ffiniau yn yr hen arddull bensaernïol Sacsonaidd, syniad rhyfedd, ond un sydd wedi’i gyflawni mewn modd rhagorol. Mae’r Saeson yn cam-briodoli’r arddull hon i’r Eingl-sacsoniaid: datblygodd yn amser yr ymerawdwyr yn y llinach Sacsonaidd; ac mae’n eithaf sicr na ellir dyddio’r un o’r olion Sacsonaidd niferus yn gynharach na hynny. Mae i’r mur uchel, sy’n amgylchynu’r parc mewn cylch o o leiaf filltir Almaenaidd, ymddangosiad nodedig iawn; gosodwyd darnau mawr o lechfaen, tair neu bedair troedfedd mewn taldra, ac yn afreolaidd eu siâp, yn unionsyth i mewn i frig y mur. Ym mhob mynedfa, mae porth tebyg i amddiffynfa gyda phorthcwlis yn gwgu ar y tresmaswr – arwydd nid anaddas, gyda llaw, o grintachrwydd Saeson yr oes hon, sy’n cau eu parciau a’u gerddi i ffwrdd yn fwy sicr nag yr ydym ninnau’n ei wneud â’n lolfeydd. Rhaid i’r ymwelydd breintiedig wedyn groesi pont godi cyn mynd heibio porth y castell trawiadol. Mae marmor du Ynys Môn, wedi’i dorri’n arw, yn gweddu’n rhagorol i wychder y golygfeydd o gwmpas. Cedwir at yr arddull Sacsonaidd bur yn y manylion lleiaf, hyd yn oed yn ystafelloedd y gweision a rhannau mwyaf cyffredin yr adeilad. Yn y neuadd fwyta, canfûm ddynwarediad o gastell Gwilym Goncwerwr, yn Rochester, a ddisgrifiais wrthych o’r blaen. Yr hyn y gallai ond teyrn grymus ei gyflawni bryd hynny a gyflawnir heddiw, megis tegan – ond yn fwy ei faint, ei odidowgrwydd a’i gost – gan ŵr bonheddig gwledig syml, yr oedd ei dad, yn ddigon tebyg, yn gwerthu caws. Felly mae’r rhod yn troi!
Roedd llorgynllun yr adeilad, y bu’r pensaer mor garedig â’i ddangos i mi, yn cynnwys rhai manylion domestig yr wyf yn falch o allu eu cyfleu i chi; oherwydd mae ymron pob plasty mawr Seisnig wedi ei adeiladu ar yr un cynllun; gan amlygu, ymhlith llawer peth arall, y syniadau taclus ynghylch yr hyn sy’n ddefnyddiol ac yn gyfleus, a’r addasu rhagorol ar ddulliau i sicrhau dibenion, sy’n nodweddiadol o’r Saeson. Ni fydd y gweision byth yn aros yn y rhagystafell – a elwir y neuadd yma – sydd, fel agoriad opera, wedi’i chynllunio i gyfleu cymeriad yr adeilad cyfan: mae wedi ei haddurno fel arfer â cherfluniau neu luniau, ac, fel y staer goeth a’r amrywiol ystafelloedd gwely, mae wedi’i bwriadu ar gyfer defnydd y teulu a’u gwesteion, sydd yn ddigon uchel eu chwaeth i weini arnynt eu hunain yn hytrach na mynnu bod rhyw ysbryd gwarchodol bob amser wrth eu sodlau. Bydd y gweision yn byw mewn ystafell fawr mewn rhan anghysbell o’r tŷ, fel arfer ar y llawr daear, lle bydd pawb, yn wrywod a benywod, yn bwyta gyda’i gilydd, a lle bydd clychau’r tŷ cyfan wedi’u gosod. Bydd y clychau’n crogi mewn rhes ar y wal, gyda rhif wrth bob un fel y gellir gweld yn syth ym mha ystafell mae unrhyw un wedi canu’r gloch: mae rhyw fath o bendil ynghlwm â phob un, sy’n parhau i ddirgrynu am ddeng munud ar ôl i’r sŵn beidio i atgoffa’r rhai swrth o’u dyletswydd. Mae gan fenywod y sefydliad hefyd ystafell gyffredin fawr, lle byddant, pan nad oes ganddynt unrhyw beth arall i’w wneud, yn gwnïo, yn gwau ac yn gwehyddu: yn agos at yr ystafell honno mae ystafell fach ar gyfer golchi’r gwydrau a’r llestri tsieni, sydd hefyd yn rhan waith y menywod. Bydd gan bob un ohonynt hwythau, a phob un o’r gweision gwrywaidd, ystafell wely ar wahân ar y llawr uchaf. Dim ond y ‘wraig cadw tŷ’ a’r ‘bwtler’ fydd ag ystafelloedd arbennig yn y gwaelod. Yn union y drws nesaf i ystafell y wraig cadw tŷ, bydd ystafell lle gwneir y coffi, a’r storfa sy’n cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer brecwast. Yn Lloegr, hyhi sydd yn gyfrifol am y pryd pwysig hwnnw. Ar ochr arall yr adeilad bydd y cyfleusterau golchi, gyda beili bach cyfagos; yno ceir tair ystafell, y gyntaf ar gyfer golchi, yr ail ar gyfer smwddio, a’r drydedd, sydd â nenfwd cryn dipyn yn uwch, ac sydd wedi ei chynhesu ag ager, ar gyfer sychu’r llieiniau pan fo’r tywydd yn ddrwg. Ger ystafell y bwtler mae ei bantri, ystafell eang wedi’i diogelu rhag tân, gyda chypyrddau ar bob ochr iddi ar gyfer y platiau y bydd yntau’n eu glanhau yma, ynghyd â’r gwydrau a’r llestri tsieni a ddefnyddir ar gyfer cinio gyda’r nos, y mae’n rhaid eu dychwelyd i’w ofal yn syth ar ôl i’r gwragedd eu golchi. Cyflawnir yr holl drefniadau hyn yn y modd mwyaf prydlon. Mae staer y tu ôl i ddrws â chlo yn arwain o’r pantri i seler y cwrw a’r gwin, sydd hefyd yng ngofal y bwtler.
Hier nun gerieth ich zuerst in jenen Touristenschwarm, dem ich sobald nicht wieder entrinnen sollte. Der ganze Schloßhof stand voll Menschen, – Damen mit ledernen Handschuhen, die Fechthandschuhen nicht unähnlich waren, und blauseidenem Wetterdach vor dem Strohhut; Herren in carrierten Mützen und den Hals in steife Collars geknebelt – denn ganz bequem kann sich’s der Gentleman sogar auf der Reise nicht machen. Die Schaulust dieser ungeheuren Schaar wurde sectionenweise befriedigt; alle Viertelstunde öffnete sich das Thor, um zwei Dutzend heraus- und andere zwei Dutzend hineinzulassen. Mittlerweile hatte ich Muße, das Thürwappen zu studiren. Es war ein Hirschbock, der von einer Geißel getrieben ward – mit der Umschrift: aequo animo. Das berühmte Dante’sche: „Lasciate speranza!" paßte nicht beßer für den Besucher der Hölle, als der Pennant’sche Schildspruch für den Besucher dieser Burg. Wahrlich – es gehörte viel Gleichmuth dazu, sich mit 24 Gentlemen von einer vertrockneten, finstern, mistrauischen Schloßverwalterin durch ein Schloß hetzen zu lassen, das in seiner exquisiten Pracht vom wärmsten Lebensgenuß zeugte und dazu anregte. Ich kam mir recht vor, wie jener Hirschbock, der von einer Geißel getrieben wird, und dachte dabei immer „aequo animo!" Mit den 24 Gentlemen, von welchen einer einen schreienden Sprößling auf den Armen trug, hatte sie freilich leichtes Spiel; sie liefen – der Gentleman mit dem Schreihals immer voraus – so schnell durch alle Säle, Hallen und Gemächer, daß die Geißel kaum folgen konnte. Ich aber bereitete ihr vielen Ärger. Hier blieb ich vor einem Caneletti und Pierro del Vayn, dort – in der Schloßcapelle – vor einem Glasfenster stehen; überall hatte ich mir etwas in’s Notizbuch zu schreiben, Nichts war vor mir sicher. Das verdroß sie sehr. Ich gieng immer meine eignen Wege und verirrte mich sogar einmal so, daß ich die Gesellschaft nur durch’s Gehör fand, indem ich mich nämlich dem Gentleman mit dem Schreihals nachfühlte. Kurz und gut – vom Ärger gieng die Geißel zum Verdacht über; und da ich so gar nichts an mir hatte, was Gentleman-Iike war, vielmehr einen Knotenstock führte und den Hemdkragen breit über dem lose flatternden Halstuch trug, so hielt sie mich für einen heimlichen Dieb, für einen verkappten Räuber. Sie wich nicht mehr von meiner Seite, sie sah mir auf die Hände, sie murmelte unverständliche Reden. Was hätte ich Dir entwenden sollen, Beste? Etwa eine von den goldbordirten Bettdecken? Unter dem steifen Brokat würde ich doch nicht schlafen können! Oder eins von diesen vergoldeten Waschbecken? Einen mit Sammet ausgeschlagenen Rollsessel? Oder gar einen dieser Marmorkamine? Einmal allerdings, als ich in dem Bibliotheksaal, wo die herrlichsten Bande hinter vergoldeten Gittern in Reih und Glied zu Tausenden aufgestellt sind – als ich da auf einem der Mahagonitische aufgeschlagen die Firmin Didot’sche Bilderausgabe des Horaz sah, da allerdings wandelte mich eine gar seltsame Lust an, da zuckte allerdings meine Hand – aber ich las das „Integer vitae!“. . . „Wer reinen Herzens lebt“ . . . und obendrein stand die Geißel mit ihrem furchtbarsten Blicke neben mir... und der Firmin Didot’sche Bilderhoraz und die Unschuld meiner Seele waren gerettet!
Ar fryncyn uwchlaw’r drefgordd hynod swynol hon, saif Castell y Penrhyn, plasty teulu Pennant, y cyfeiriwyd atynt eisoes, sydd ymhlith y tirfeddianwyr cyfoethocaf yn y rhan hon o Ogledd Cymru. Mae’n wir mai adeilad newydd ydyw, ond gyda’i dyrau a’i fylchfuriau, ei ffurf afreolaidd, ei ffenestri culion, ei liw tywyll a’i orchudd trwchus o eiddew, hyd yn oed o sefyll yn agos ato, mae’n cyfleu’r argraff o fod yn hen gastell Sacsonaidd. Mae muriau enfawr a phorth cadarn, uchel, yn amgylchynu’r parc. Wrth fynd i mewn, mae holl ireidd-dra a phersawr y goedwig yn eich croesawu’n syth. Mor wahanol i barc yn Ffrainc yw’r parc Seisnig hwn â’i holl brydferthwch naturiol! Yma, nid oes unrhyw ffynhonnau gyda cherfluniau o sffincsau, dim Apolon na Fenws, dim gwrychoedd yw wedi’u trimio nac orendai – ond mae yna goed derw gannoedd o flynyddoedd oed, ffawydd yn siffrwd a bedw disglair; gallwch weld ceirw’n torri drwy’r dryslwyn ffynidwydd neu ewigod yn prancio ar draws y weirglodd iraidd – yn wir, gallwch hyd yn oed eu dilyn os dyna eich dymuniad. Natur yw popeth, natur iraidd, amheuthun! O’r diwedd, mae’r castell yn ymddangos o ganol y dryslwyn o’i gwmpas; mae’r muriau llwydion, y tyrau â’u golwg hindreuliedig a’r bylchfuriau danheddog yn pefrio’n hyfryd drwy’r dail. Mae cwrt y castell yn cynnig golygfa wych o’r môr oddi tanodd. Mae’r castell â’i ffenestri tal a baner ar ei dŵr y tu cefn, tra mae’r allt dan orchudd o ffynidwydd a mieri’n ymestyn o’r blaen. Yna gwelir y lawnt esmwyth yn wyrdd yn yr haul, y goedwig gyda’i choed ffawydd cadarn a’r môr gloyw-las, gyda’r glannau megis garlant blodeuog iddo ar y dde ac yna craig ddisglair Penmaenmawr yn disgyn yn syth i’r môr. Glas tyner, tesog yw’r cefndir ac yn erbyn hwnnw ymddengys Pen y Gogarth megis darlun gwelw.
Yma cefais fy sugno i mewn i haid o dwristiaid o blith y rhai ni lwyddais i ddianc am gryn amser. Roedd y cwrt cyfan wedi’i lenwi â phobl, – boneddigesau’n gwisgo menig lledr nid annhebyg i fenig cleddyfaeth a pharasolau o sidan glas o flaen eu hetiau gwellt; boneddigion â chapiau plad a’u coleri caled ymron yn eu mygu – achos ni ddylai unrhyw ŵr bonheddig ar daith gwyliau byth fod yn gwbl gyffyrddus. Bodlonwyd chwilfrydedd y dorf anferth hon un rhan ar y tro; bob chwarter awr, agorai’r glwyd i adael hanner dwsin o ymwelwyr allan ac i groesawu dau ddwsin arall i mewn. Yn y cyfamser, difyrrais fy hun drwy archwilio’r arfbais ar y drws. Dangosai garw’n cael ei erlid â chwip ac roedd arni’r arysgrif, ‘aequo animo’. Ni fyddai ‘Lasciate speranza!’ Dante wedi bod yn fwy priodol ar gyfer ymwelydd ag uffern nag yw arwyddair Pennant ar gyfer yr ymwelydd â’r castell hwn. Yn wir – roedd yn gofyn cryn amynedd i ymuno â’r pedwar gŵr bonheddig ar hugain a chael eich tywys gan wraig cadw tŷ gwywedig, sarrug ac amheus o gwmpas castell a amlygai fawredd coeth a mwynhad bywyd ar ei orau. Teimlais braidd fel y carw hwnnw a oedd yn cael ei erlid â chwip ac yr oedd yr ‘aequo animo’ yn dod i’r meddwl yn barhaus! Cafodd hithau amser hawdd gyda’r pedwar gŵr bonheddig ar hugain, yr oedd un ohonynt yn cludo ei blentyn yn sgrechian yn ei freichiau; teithiasant – y gŵr bonheddig â’r plentyn bach swnllyd yn y blaen – mor gyflym drwy bob ystafell, neuadd a siambr fel bod y chwip yn cael trafferth cadw gyda hwy. Ond roeddwn innau’n achosi cryn boen iddi. Yn gyntaf, oedais o flaen darluniau gan Canaletti a Pierro del Vayn, yna – yng nghapel y castell – o flaen ffenestr liw; ym mhobman, roedd raid i mi aros a sgriblo rhywbeth yn fy llyfr nodiadau; nid oedd dim yn ddiogel oddi wrthyf. Roedd hynny’n ei gwneud yn eithaf blin. Roeddwn byth a hefyd yn mentro ar fy llwybrau fy hun ac euthum hyd yn oed ar goll un tro fel na lwyddais i ganfod y grŵp eto ond drwy ddefnyddio fy nghlustiau, gan wrando am y gŵr bonheddig a’r plentyn sgrechiadol. I dorri stori hir yn fyr – newidiodd agwedd y chwip o flinder i ddrwgdybiaeth. A chan nad oedd dim amdanaf yn debyg i ŵr bonheddig, gyda’m cansen gnyciog a’r goler lydan ar fy nghrys wedi ei phlygu dros fandana lipa, penderfynodd mai lleidr cyfrwys oeddwn, byrgler mewn cuddwisg. Ni adawai fy ochr bellach, gwyliai fy nwylo a mwmian yn anhyglyw. Beth oeddwn i fod i’w ddwyn, cariad? Un o’r carthenni plu â’r brêd euraid? Ni allwn fyth gysgu o dan y brocêd caled! Neu un o’r basnau euraid hyn? Un o’r cadeiriau breichiau melfedîn ar olwynion? Neu efallai hyd yn oed un o’r lleoedd tân marmor? Un tro, fodd bynnag, yn y llyfrgell – lle mae miloedd ar filoedd o’r cyfrolau mwyaf gwych mewn rhesi y tu ôl i ddelltwaith euraid – pan sylwais ar argraffiad darluniadol Firmin Didot o Horas, daeth awydd rhyfedd drosof ac, yn wir, roedd fy llaw yn plycio – ond darllenais yr ‘Integer vitae!’ . . . ‘Pwy bynnag a fydd byw â chalon bur’ . . . ac ar ben y cyfan, safai’r chwip wrth fy ochr â’r golwg mwyaf milain ar ei hwyneb . . . ac achubwyd Horas darluniadol Firmin Didot a diniweidrwydd fy enaid innau!