BETA Version
English
Cymraeg
Français
Deutsch
Dinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod - Trosolwg

Mae Dinbych-y-Pysgod yn dref farchnad a glan môr brysur yn rhan orllewinol Bae Caerfyrddin. Dengys tystiolaeth archaeolegol fod pobl wedi byw yn yr ardal mor bell yn ôl â'r Oes Haearn ac yn yr oesoedd canol sefydlodd y Llychlynwyr bentref pysgota ar safle'r dref bresennol. Yn dilyn y Goncwest Normanaidd yn y ddeuddegfed ganrif, anogodd coron Lloegr fewnfudwyr Ffleminaidd a Seisnig i ymsefydlu yn y rhanbarth a daeth i'w adnabod fel 'Lloegr Fach tu hwnt i Gymru'. Datblygodd Dinbych-y-Pysgod yn borthladd Normanaidd pwysig a sefydlwyd castell ar Fryn y Castell i amddiffyn y safle strategol bwysig hwn. Wedi tri ymosodiad gan fyddinoedd Cymreig, yn cynnwys cyrch gan Llywelyn ap Gruffydd yn 1260 pan ddinistriwyd y dref bron yn llwyr, fe adeiladwyd y muriau amgylchynol yn niwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Roedd Dinbych-y-Pysgod yn dref farchnad a llongau o bwys tan gyfnod Elizabeth I, ond dirywiodd ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr oherwydd ei safle anghysbell a'r ffaith i'r boblogaeth ddioddef yn enbyd wedi achos o'r pla du. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd ym mhoblogrwydd ymdrochi yn y môr a datblygiad trefi glan môr yn niwedd y ddeunawfed ganrif, daeth bri ar y dref unwaith yn rhagor. Yn dilyn buddsoddi mawr mewn sefydlu gwestai moethus a baddondai ffasiynol, dechreuodd pobl o safon ac arian lifo i mewn. Mae'r bensaerniaeth Sioraidd a Fictoraidd gynnar hon yn dal yn amlwg iawn yn y dref. Tra ar ymweliad o ychydig ddyddiau yn 1796, roedd y barwn o Awstria, Gottfried Wenzel von Purgstall, yn hael ei ganmoliaeth i'r olygfa o Fryn y Castell gan ei disgrifio fel un o'r rhai gorau yng Nghymru. Hefyd mwynhaodd noson ddymunol, yn chwarae cardiau gyda chriw bychan o ymwelwyr â'r spa; dywed fod ambell un o'r merched a oedd yn bresennol yn 'bur ddel' hyd yn oed!

Ysgrifau taith

About Us

This website was developed by a team of researchers and academics across a range of institutions and funded by the AHRC.

Terms of Use

Get in Touch